Ty allan y Senedd

Y Senedd

Ty allan y Senedd

Y Senedd

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Senedd 2020-21

Cyhoeddwyd 23/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Gwrando ar bobl Cymru yn ystod blwyddyn heriol

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Senedd 2020-21

Heddiw, mae Comisiwn y Senedd yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol, sy’n edrych yn ôl ar y pethau a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi bod yn gyfnod heriol iawn. Mae'r adroddiad yn amlinellu sut mae’r broses o ymgysylltu â'r cyhoedd wedi cael ei haddasu drwy gydol y pandemig, wrth i'r Senedd graffu ar reolau hanfodol yn ymwneud â COVID-19 ar ran pobl Cymru.

Wrth i'r genedl addasu i'r pandemig, y Senedd oedd un o'r deddfwrfeydd cyntaf yn y byd i gynnal cyfarfodydd cwbl ddwyieithog ar-lein, ac mae'r sefydliad wedi defnyddio ei harbenigedd i helpu cyrff eraill i wneud yr un peth.

Mae Senedd Cymru wedi gweld newidiadau sylweddol, gyda’r sefydliad yn cael ei alw’n Senedd Cymru / Welsh Parliament yn swyddogol. Am y tro cyntaf, pleidleisiodd pobl ifanc 16 a 17 oed yn yr etholiadau a gynhaliwyd yn 2021.

Mae pwyllgorau’r Senedd wedi mynd i'r afael â llawer iawn o ddeddfwriaeth a oedd yn ymwneud â'r ymateb i'r pandemig a Brexit, ac wedi ymdrin ag elfennau cymhleth o’r broses ddeddfu yn rhithwir am y tro cyntaf.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn cadarnhau bod Cyfrifon Comisiwn y Senedd wedi eu cymeradwyo, gan adlewyrchu ymrwymiad y sefydliad i ddefnyddio adnoddau cyhoeddus mewn modd darbodus a thryloyw.

Ymgysylltu â phobl Cymru

Er bod heriau wedi codi yn sgil y pandemig, llwyddodd y Senedd i barhau i ymgysylltu â'r cyhoedd a chynnwys pobl yng ngwaith y sefydliad. Yn sgil y ffaith bod adeilad y Senedd ar gau, cafodd y gwaith allgymorth a wneir ei addasu er mwyn ymgysylltu â phobl o bell.

Cynhaliwyd yr ail ŵyl GWLAD ar-lein, gan ymdrin ag amrywiaeth o bynciau megis yr amgylchedd, digartrefedd ymhlith pobl ifanc, cymunedau gwledig, busnes, a'r celfyddydau.  Nid oedd hanner y bobl a gymerodd ran yn y digwyddiadau hyn erioed wedi ymgysylltu â'r Senedd o'r blaen.

Y nifer uchaf erioed o lofnodion ar ddeisebau

Yn ystod y Bumed Senedd cafwyd dros filiwn o lofnodion ar ddeisebau cyhoeddus, gyda’r nifer uchaf o bobl erioed yn manteisio ar y cyfle i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Yn 2020, lansiodd y Senedd wefan newydd ar gyfer y system ddeisebau. Cafodd y nifer uchaf erioed o ddeisebau eu cyflwyno i'w hystyried, a chasglodd un o’r deisebau hynny, yn ymwneud â rheolau COVID, 67,940 o lofnodion.

Mae’r canlyniadau sydd wedi deillio o ddeisebau a gyflwynwyd yn cynnwys gwaharddiad ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, mynediad at gyffur newydd i bobl â ffibrosis systig, a chyllid i alluogi plant sydd wedi colli coes/braich i gael mynediad at brostheteg chwaraeon arbenigol.

Dywedodd Elin Jones AS, Llywydd y Senedd:

“Rwy’n falch bod pobl wedi ymgysylltu â’u Senedd drwy gydol yr argyfwng COVID, gan fod ein penderfyniadau yn fwy effeithiol pan fydd dinasyddion yn cymryd rhan.

“Roedd etholiad y Senedd yn 2021 yn un hanesyddol, gyda phobl ifanc 16 a 17 oed yn bwrw pleidlais am y tro cyntaf, ac mae gwella ein proses ddeisebau yn dangos bod pobl Cymru yn ymgysylltu â datganoli yn awr yn fwy nag erioed o’r blaen.

“Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2020-21 yn adlewyrchu cyfnod a fu’n gythryblus, ac rwy’n falch o’r ffordd y mae staff y Comisiwn wedi parhau i ddarparu cymorth seneddol i’r Aelodau mewn trafodion hybrid ac mewn rhai rhithwir.

“Gan ddefnyddio technoleg a thrwy arloesi, rydym wedi parhau i basio deddfwriaeth bwysig ac rydym wedi parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.”

Ychwanegodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd:

“Bu’n rhaid i’r Senedd wynebu heriau digynsail fel sefydliad yn sgil y pandemig.

“Mae’r cyflawniadau niferus a nodir yn yr Adroddiad Blynyddol, a’r ffaith bod y Cyfrifon wedi’u cymeradwyo, yn dangos bod y Comisiwn wedi defnyddio adnoddau mewn ffordd gynaliadwy drwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus.

“Wrth i’r cyfyngiadau yn sgil COVID gael eu codi’n raddol, byddwn yn parhau i addasu ein ffyrdd o weithio mewn modd sy’n sicrhau bod y Senedd yn parhau yn lle hyblyg, teg a chynhwysiol i weithio.”

Gellir gweld pob adroddiad ar gyfer 2020/21 yma.