Siambr Senedd

Siambr Senedd

Sut mae Llywydd y Senedd yn cael ei ethol?

Cyhoeddwyd 29/04/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/05/2026   |   Amser darllen munudau

Wrth i ni groesawu’r Aelodau i’r Senedd newydd, un o’u tasgiau cyntaf fydd ethol Llywydd newydd. 

Beth yw Llywydd?

Y Llywydd sydd â’r swydd bwysicaf yn y Senedd.

Mae rôl Llywydd y Senedd yn debyg i rôl Llefaryddion a Llywyddion mewn seneddau ledled y byd. Gall union deitl a chyfrifoldebau'r swydd amrywio o wlad i wlad.

Mae'r Llywydd yn cadeirio’r Cyfarfod Llawn, gan aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser. Mae hefyd yn chwarae rhan wrth gynrychioli buddiannau'r Senedd a Chymru ar lefelau cenedlaethol, y DU a rhyngwladol. Ar ben hynny, y Llywydd yw cadeirydd Comisiwn y Senedd.

Beth yw'r broses ar gyfer ethol y Llywydd?

Dyma sut mae'r broses yn gweithio.

Tasg gyntaf y Senedd yn ei chyfarfod cychwynnol ar ôl etholiad yw ethol Llywydd. Dyma’r broses ar gyfer gwneud hynny:

Bydd y Cadeirydd yn galw am enwebiadau. Rhaid i Aelod sy’n eilio enwebiad berthyn i grŵp gwleidyddol gwahanol i'r Aelod sy'n gwneud yr enwebiad.

  • Yn yr achos annhebygol na ellir sicrhau enwebiad dilys o blaid unrhyw Aelod, bydd y Cadeirydd yn gohirio'r cyfarfod. Pan fydd y cyfarfod yn ailddechrau, bydd y Cadeirydd yn galw eto am enwebiadau. 
  • Os nad oes ymgeiswyr o hyd â chefnogaeth o’r tu allan i’r un grŵp gwleidyddol, bydd y Cadeirydd yn caniatáu i’r Aelod sy’n enwebu a’r Aelodau sy’n eilio enwebiad ddod o’r un grŵp gwleidyddol.

2.     

      Os na fydd ond un enwebiad, bydd y Cadeirydd yn cynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol.

  • Os bydd gwrthwynebiad, cynhelir pleidlais gyfrinachol.
  • Os na fydd gwrthwynebiad, caiff yr Aelod ei ethol.

3.     

      Os bydd mwy nag un enwebiad, cynhelir pleidlais gyfrinachol.

  • Os enwebir dau Aelod, yr Aelod sy’n cael mwyafrif o’r pleidleisiau a fwriwyd sy’n cael ei ethol.
  • Os enwebir mwy na dau Aelod, etholir yr Aelod sydd â mwy o bleidleisiau na’r cyfanswm ar gyfer yr holl ymgeiswyr eraill.
  • Os na chaiff Aelod fwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer yr holl ymgeiswyr eraill, tynnir yr ymgeisydd (neu'r ymgeiswyr) sydd wedi cael y nifer leiaf o bleidleisiau o’r broses. Yna, cynhelir rhagor o bleidleisiau cyfrinachol nes i un ymgeisydd gael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer yr holl ymgeiswyr eraill.

Sut mae’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi?

Y Cadeirydd fydd yn cyhoeddi’r canlyniad i'r Senedd.

Yna, bydd yr Aelod a etholir yn Llywydd yn cadeirio gweddill y cyfarfod ac unrhyw fusnes sy’n weddill, gan gynnwys ethol Dirprwy Lywydd o dan yr un un broses a ddefnyddiwyd i ethol y Llywydd.

Eisiau gwybod mwy?

Dysgwch ragor am sut mae'r bleidlais gyfrinachol yn gweithio, am y broses ar gyfer ethol y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd(ion), a llawer mwy yn ein Canllaw i Fusnes Cynnar y Cyfarfod Llawn.