Mae arweinyddiaeth anghyson a newid araf i’r agwedd tuag at yr amcanion wedi niweidio uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, bum mlynedd ers iddi gael ei chyflwyno.
Mae adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, y Senedd ac Archwilydd Cyffredinol Cymru i weithio’n well i hyrwyddo uchelgais y Ddeddf.
Mae'r adroddiad - Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yma - a gyhoeddwyd ar 17 Mawrth 2021, yn edrych ar y rhwystrau i weithredu'r Ddeddf ac yn cynnig argymhellion adeiladol. Dyma'r tro cyntaf i Bwyllgor Senedd gynnal gwaith craffu cynhwysfawr ar draws y gwahanol gyrff sy'n gyfrifol, gyda 97 o sefydliad yn cyfrannu at yr ymchwiliad.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddeddfwriaeth uchelgeisiol - y cyntaf o'i bath yn y byd. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i'r Llywodraeth a rhai cyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, gan weithio gyda'i gilydd er mwyn datblygu cynlluniau cynaliadwy a fydd yn atal problemau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn gosod argymhellion ar gyfer yr holl gyrff sy’n gyfrifol am weithredu’r Ddeddf, ac mae’r Pwyllgor yn annog y cyrff i’w derbyn yn modd adeiladol y’u gwnaed.
Fe wnaeth y pwyllgor hefyd ddysgu sut mae pandemig COVID-19 wedi pwysleisio pwysigrwydd gweithio ar y cyd ac ar draws meysydd polisi. Tra bod cynllunio tymor-hir wedi bod yn anodd iawn dros y 12 mis diwetha’, mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd y brwdfrydedd newydd tuag at gyd-weithio yn parhau wrth gynllunio ar gyfer adfer ar ôl COVID.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, Nick Ramsay AS:
“Bu amheuon yn y gorffennol a oedd hi’n bosibl gweithredu datblygiadau cynaliadwy drwy ddeddfwriaeth. Mae'n amlwg bellach nad yw’r amheuaeth yma yn ddigon da ac mae cyfrifoldeb arnom ni fel Senedd, ac fel gwlad, i drawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus er gwell.
“Dyma pam yr aethom ati i gynnal yr ymchwiliad hwn gyda sylfaen adeiladol: sut allwn ni wneud i'r Ddeddf hon weithio? Mae'r argymhellion yn berthnasol yn bennaf i Lywodraeth Cymru, ond hefyd cyrff cyhoeddus, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac ar gyfer y Senedd ei hun. Rydym yn annog y cyrff hynny i dderbyn yr argymhellion yn y modd adeiladol y’u gwnaed.
“Wrth imi fyfyrio ar ble rydyn ni nawr, a chymharu hynny â phan ddechreuon ni gynllunio’r ymchwiliad hwn flwyddyn yn ôl, mae’n syndod i mi mor berthnasol yw’r darn hwn o waith erbyn heddiw. Mae'r ymateb i'r pandemig wedi rhoi ein gwasanaethau cyhoeddus dan straen mawr, ac ar brydiau, mae pwysau’r heriau dyddiol wedi ei gwneud hi’n amhosib cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ond rydym hefyd wedi gweld camau tuag at gydweithio cadarnhaol, pan ddaeth egwyddorion y Ddeddf yn fwy perthnasol nag erioed. Rhaid i ni sicrhau nad yw’r gwaith da yn mynd yn ofer ac fod egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhan ganolog o’r cynlluniau ar gyfer adfer.
“Mae'r ffaith i 97 o sefydliadau roi tystiolaeth ynddo'i hun yn dangos fod cefnogaeth i’r Ddeddf. Pan gafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ei chyflwyno yn 2015, roedd yn ddarn arloesol o ddeddfwriaeth. Ei bwriad yw i ysbrydoli ac i osod uchelgais ar gyfer y dyfodol ac, yn y pen draw, mae ei llwyddiant yn gyfrifoldeb ar bawb. Rhaid i ni i gyd wneud yn well.”
Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru ac mi fydd dadl yn y Senedd ar ddydd Mercher 24 Mawrth.