£1 darn arian

£1 darn arian

Argyfwng costau byw - Ymateb y Senedd i Gyllideb Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 07/02/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/02/2022   |   Amser darllen munudau

Ar ran pobl Cymru, mae Pwyllgorau’r Senedd yn mynegi pryderon difrifol wrth i’r genedl wynebu argyfwng costau byw.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif o ran ei chynlluniau gwariant a maent wedi cyhoeddi adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn gyllidol nesaf (2022-23) sydd yn dechrau 1 Ebrill.

Mae’r Pwyllgor yn pryderu bod incwm pobl, yn enwedig aelwydydd tlotach, o dan bwysau sylweddol o ganlyniad i chwyddiant a phrisiau ynni cynyddol.

Mae’r adroddiad yn cydnabod ymdrechion parhaus Llywodraeth Cymru i ymateb i’r argyfwng costau byw, yn enwedig gyda’i Chronfa Cymorth Dewisol, sydd â’r nod o helpu gyda biliau tanwydd y gaeaf, a’r ffaith ei bod wedi ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim. 

Fodd bynnag, mae aelodau’r Pwyllgor wedi mynegi pryderon ar ôl clywed tystiolaeth gan gyrff fel Sefydliad Bevan, sy’n nodi bod gan yr ystod o gynlluniau cymorth gan Lywodraeth Cymru broffil isel, sy’n golygu bod y bobl fwyaf agored i niwed yn aml yn methu â manteisio arnynt.

Roedd costau byw cynyddol a'r effaith y gallai hyn ei chael ar yr aelwydydd tlotaf yn ystyriaeth allweddol i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Er bod aelodau’r Pwyllgor yn derbyn nad yw’r rhan fwyaf o’r meysydd lle gellid mynd i’r afael â chaledi, gan gynnwys treth, lles a budd-daliadau, wedi’u datganoli, anogodd aelodau’r Pwyllgor Llywodraeth Cymru i barhau i ystyried y pwysau ariannol ar unigolion ac aelwydydd wrth iddi gwblhau ei chynlluniau gwariant.

Mae Aelodau’n galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth y mae’n ei ddarparu.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

“Wrth i Gymru gymryd ei chamau cyntaf allan o’r pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau sylweddol wrth ymateb i bwysau economaidd, yn ogystal ag effeithiau newid hinsawdd a Brexit. Mae hyn oll yn digwydd ar adeg pan fo pwysau pryderus ar incwm aelwydydd.

“Bydd y pandemig yn parhau i roi pwysau sylweddol ar iechyd, llywodraeth leol a busnesau . Fodd bynnag, rwy'n croesawu'r symudiad tuag at adfer yn y gyllideb ddrafft hon.

“Mae ein Pwyllgor wedi clywed bod gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau digynsail ac y bydd aelwydydd tlotach yn benodol yn ysgwyddo baich y cynnydd mewn chwyddiant, wedi’i arwain gan gostau ynni uwch, cynnydd arfaethedig mewn trethi a phrisiau cynyddol i ddefnyddwyr.

“Er fy mod yn croesawu’r gwariant cynyddol yn ystod y blynyddoedd i ddod, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw sy’n wynebu Cymru heddiw.”

Mae nifer o Bwyllgorau’r Senedd wedi trafod pob agwedd o gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb, ac maent wedi clywed tystiolaeth gan arbenigwyr a Gweinidogion. Dyma eu canfyddiadau a’u hargymhellion ar gyfer gwelliannau:

Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd ar ôl y pandemig

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn pryderu am brinder staff a materion o ran y gweithlu. Mae’r rhain yn cynnwys gorflinder staff ac absenoldebau oherwydd COVID-19, yn ogystal â heriau mwy hirdymor fel ymdrin â swyddi gwag, cystadleuaeth gan wasanaethau preifat a gwasanaethau cyhoeddus eraill a phwysau ar gyflogau.

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn tynnu sylw at yr heriau, gan gynnwys ymateb i’r pandemig, adfer a chynnal gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID, a gweithio i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol i helpu pobl yng Nghymru i fyw’n hirach a byw bywydau iachach.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r cynnydd mewn cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol i adlewyrchu’r asesiadau cyllido gan awdurdodau lleol, gan gynnwys talu cyflog byw gwirioneddol.

Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ill dau yn galw ar Weinidogion i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynlluniau i fynd i’r afael â’r argyfwng uniongyrchol sy’n wynebu gofal cymdeithasol, yn ogystal â heriau yn y tymor hwy o ran sefydlogi’r sector, paratoi ar gyfer diwygiadau, a sicrhau cydbwysedd teg a chynaliadwy rhwng cyllid ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r Pwyllgor yn gofyn am ragor o fanylion am sut y bydd y gyllideb yn cael ei thargedu i gyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer atal a datrys yr anghydraddoldebau iechyd y mae’r pandemig wedi’u hamlygu.

Cefnogi busnesau

Wrth gasglu tystiolaeth, clywodd y Pwyllgor Cyllid apeliadau gan fusnesau i gadw rhyddhad ardrethi busnes ar gyfradd o 100 y cant ar gyfer 2022-23 oherwydd pwysau fel cyfraniadau yswiriant gwladol cynyddol, costau ynni a chwyddiant. Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried dulliau eraill o drethu busnesau i sicrhau system decach cyn gwneud unrhyw newidiadau i ardrethi busnes.

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn poeni am effeithiau’r cyfyngiadau COVID diweddaraf ar fusnesau. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried llunio pecyn o gymorth wedi’i dargedu i gefnogi adferiad economaidd yn y sectorau hynny yr effeithiodd y cyfyngiadau diweddar arnynt fwyaf.

Rhoi plant wrth galon y gyllideb

Unwaith eto, mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn teimlo’n rhwystredig nad yw hawliau plant wedi’u hymgorffori ym mhroses y gyllideb. Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer y gyllideb ochr yn ochr â’i Hasesiad Effaith Integredig Strategol.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn poeni am ba mor bell y mae’n rhaid i deuluoedd yng ngogledd a chanolbarth Cymru deithio i gael cymorth iechyd meddwl amenedigol arbenigol ac mae’n teimlo bod Llywodraeth Cymru yn cymryd gormod o amser i gyflawni ei haddewid i greu gwasanaeth newydd sy’n fwy hygyrch i deuluoedd yng Nghymru.

Mae Aelodau’n annog Llywodraeth Cymru i egluro ei chynlluniau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol i deuluoedd yn y gogledd a’r canolbarth, ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt o ran pryd y byddant yn gallu cael gafael ar y cymorth hanfodol hwn.

Mae’r Pwyllgor yn cwestiynu pam nad yw cyfradd uchaf y Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £30 yr wythnos wedi cael ei diwygio ers 2004, ac mae’n gofyn i Lywodraeth Cymru pam nad yw wedi cynyddu’r gyfradd.

Mynd i’r afael â’r argyfwng tai

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn pryderu bod mwy o bobl nag erioed o’r blaen mewn llety dros dro ar hyn o bryd, a bod niferoedd sylweddol yn parhau i adrodd eu bod yn ddigartref bob mis. 

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro’n agos y pwysau ar lety dros dro mewn argyfwng i sicrhau bod gan gynghorau lleol yr adnoddau ariannol a’r mynediad at lety sydd eu hangen arnynt i barhau â’r dull lle nad oes ‘neb yn cael ei adael allan’.

Gyda chwyddiant mewn prisiau, amhariadau yn y gadwyn gyflenwi a phrinder gweithwyr medrus, mae’r Pwyllgor yn pryderu y bydd Llywodraeth Cymru yn methu â chyrraedd ei tharged o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy, yn enwedig gan fod y dystiolaeth a gyflwynwyd yn dangos efallai na fydd y nifer hon yn ddigon i fynd i’r afael â phroblemau o ran y cyflenwad tai yng Nghymru.

O gofio’r materion difrifol fel cael gwared ar gladin anniogel, mae’r Aelodau’n croesawu’r arian ychwanegol yn y gyllideb ddrafft i gefnogi diogelwch adeiladau. Mae’r Pwyllgor o’r farn bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu sicrhau datrysiadau i lesddeiliaid a thenantiaid yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth am ddiogelwch eu hadeiladau.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi atebion i lesddeiliaid a thenantiaid ynghylch sut y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio cyn gynted â phosibl i roi eglurder a sicrwydd iddynt.

Diogelu ein hamgylchedd

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn glir ei bod hi’n gyfnod tyngedfennol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a dirywiad byd natur.

Dywed y Pwyllgor y bydd y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol wrth benderfynu a all Cymru gyrraedd sero net erbyn 2050. Cydnabu’r Pwyllgor y bu cynnydd yn y cyllid ar gyfer polisïau allweddol ym maes newid hinsawdd, ond galwodd ar Lywodraeth Cymru i wella’r trefniadau monitro ac adrodd i olrhain sut y mae’n gwneud gwahaniaeth.

Mae’r Pwyllgor yn galw am newid brys i ymdrin â’r argyfwng natur a gwrthdroi’r duedd o golli bioamrywiaeth.

Mae’n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn gliriach ynghylch cyfanswm y cyllid y mae’n ei ddarparu ar gyfer adfer byd natur, a sut y bydd effaith y cyllid hwn ar golli bioamrywiaeth yn cael ei hasesu a’i monitro.