Adroddiad newydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymladd i sicrhau y bydd Cymru’n parhau i gael cyllid gan yr UE

Cyhoeddwyd 09/12/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad newydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymladd i sicrhau y bydd Cymru’n parhau i gael cyllid gan yr UE

9 Rhagfyr 2009

Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio’n galed gyda’i sefydliadau partner er mwyn sicrhau nad yw Cymru’n colli arian Ewropeaidd ymhen tair blynedd, yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ar hyn o bryd, gall Cymru hawlio hyd at £2 biliwn mewn arian Ewropeaidd drwy’r polisi cydlyniant. Nod y rhaglenni sy’n rhan o’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yw cefnogi economi Cymru, helpu i greu swyddi a chodi safonau byw. Fodd bynnag, os na fydd trefniadau trosiannol wedi eu gwneud ar gyfer y cyfnod ar ôl 2013, mae’n bosibl na fydd Cymru’n gymwys i gael ychwaneg o gefnogaeth ariannol o Ewrop.

Mae’r Pwyllgor yn cefnogi’n gryf y dylid cadw dull Ewrop gyfan o weinyddu polisi cydlyniant ar ôl 2013 ac mae’n gwrthod y dadleuon dros ailwladoli rhan (neu’r cyfan) o’r arian gan na fyddai hynny o’r budd pennaf i Gymru na’r Undeb Ewropeaidd. Mae adroddiad interim y Pwyllgor ar ddyfodol y polisi cydlyniant yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru a sefydliadau o Gymru weithio gyda’i gilydd er mwyn cynrychioli safbwyntiau Cymru ar y llwyfan Ewropeaidd – fel y gall Cymru chwarae rhan flaenllaw yn y trafodaethau ar gyllid o’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer y cyfnod ar ôl 2013.

Mewn llythyr at José Manuel Barroso, Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, mae’r Pwyllgor yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei gydnabod fel senedd ranbarthol. Mae’r Pwyllgor yn pryderu bod seneddau rhanbarthol wedi eu hanwybyddu gan weledigaeth strategol Arlywydd Barroso ar gyfer ‘EU2020’, a bod pwysigrwydd cronfeydd strwythurol Ewropeaidd ar gyfer rhanbarthau fel Cymru hefyd wedi cael ei anwybyddu.

Fel rhan o’i ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, a sefydliadau eraill o Gymru, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Addysg Uwch Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Cafwyd tystiolaeth hefyd o ranbarthau a rhwydweithiau Ewropeaidd eraill. Mae’r ymchwiliad yn pwysleisio gwerth rhwydweithio ar lefel Ewropeaidd gyda rhanbarthau tebyg (gan gynnwys rhannau eraill o’r DU fel Cernyw), drwy ddulliau ffurfiol ac anffurfiol yr UE, ac mae’r Pwyllgor yn cefnogi sefydliadau o Gymru sydd eisoes yn gwneud hyn.

Dywedodd Sandy Mewies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol:

"Mae economi Cymru a’i phobl wedi elwa’n fawr ar arian Ewropeaidd am sawl blwyddyn, ond erbyn hyn mae gan yr Undeb Ewropeaidd 27 o Aelod Wladwriaethau, ac mae rhai ohonynt yn dlotach na Chymru. "

"Petai’r arian hwn yn cael ei ‘ailwladoli’ yn ôl i’r DU, byddai Cymru’n colli rheolaeth dros benderfyniadau ynghylch y ffordd orau o wario arian a allai helpu economi Cymru i oresgyn y dirwasgiad a chreu mwy o swyddi a thwf. Ni all hynny fod o’r budd pennaf i Gymru, a dyna pam fod y Pwyllgor yn galw am ymdrech gref gan Lywodraeth Cymru a phawb arall sydd â diddordeb yn y mater, er mwyn cyfleu’r neges i Lywodraeth y DU ac yn Ewrop. "

"Drwy gyhoeddi ein canfyddiadau cychwynnol yn awr, gobaith y Pwyllgor yw sicrhau bod Cymru’n chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad polisi’r dyfodol, a bod llais Cymru’n cael ei glywed,” meddai Aelod Cynulliad Delyn."

Bydd y Pwyllgor yn parhau â’i ymchwiliad wrth i’r trafodaethau barhau yn 2010, ochr yn ochr ag ymchwiliad i adolygiad o gyllideb yr UE, ond mae ei adroddiad interim yn gwneud saith o argymhellion i sicrhau na fydd Cymru’n colli’r manteision o arian Ewropeaidd ar ôl 2013.

Ymhlith yr argymhellion, mae’r Pwyllgor yn gofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch natur ymrwymiad Llywodraeth y DU i arian trosiannol i Gymru yn y polisi cydlyniant ar ôl 2013.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw am ailystyried y meini prawf ar gyfer bod yn gymwys i gael arian yn y dyfodol. Rhaid i’r meini prawf ystyried yr effaith y mae’r argyfwng economaidd ac ariannol wedi ei chael ar gynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) rhanbarthau Ewropeaidd fel Cymru, gan mai’r mesur hwn sy’n cael ei ddefnyddio i bennu lefelau ariannu yng nghyllideb yr UE.

Mae chwech o argymhellion yr adroddiad wedi eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru, ac mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell bod y Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried materion ynghylch llywodraethu wrth ddatblygu olynydd i Strategaeth Lisbon ar gyfer twf a swyddi ledled yr UE.