Adroddiad newydd yn nodi bod trefniadau ariannu ysgolion yng Nghymru yn dal yn anhryloyw

Cyhoeddwyd 06/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad newydd yn nodi bod trefniadau ariannu ysgolion yng Nghymru yn dal yn anhryloyw

Mae ymchwiliad newydd gan y Cynulliad i ariannu ysgolion wedi dod i’r casgliad bod y broses ariannu yn dal yn anhryloyw a’i bod yn anodd i’w deall.

Cyhoeddwyd adroddiad gan y Cynulliad i’r hyn a elwir yn “niwl ariannu” yn 2006. Erbyn hyn mae’r Pwyllgor Menter a Dysgu wedi cynnal ymchwiliad arall yn holi i ba raddau y cafodd argymhellion yr adroddiad cyntaf eu gweithredu.

Mae’r ail adroddiad hwn, a gyhoeddir heddiw, yn nodi bod bron i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad, gan gynnwys undebau athrawon, awdurdodau lleol, fforymau cyllidebau ysgolion a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn teimlo nad yw’r broses ariannu yn dryloyw a’i bod yn anodd i’w deall.

Hefyd, cyfeiriodd Estyn yn ei dystiolaeth at y cysylltiad rhwng adeiladau ysgol da a dysgu cadarnhaol, gan ddweud, yn eu barn hwy, bod adeiladau ysgolion diffygiol yn effeithio’n uniongyrchol ar les dysgwyr.

Nododd Estyn fod ansawdd toiledau mewn ysgolion yn achos o bryder parhaol yn ei adroddiadau blynyddol ers sawl blwyddyn. Mae’r pwyllgor wedi mynegi pryder bod materion fel iechyd, hylendid a diogelwch toiledau ysgolion, a nodwyd gan y Comisiynydd Plant yn 2004 ac a nodwyd dro ar ôl tro gan Estyn yn ei adroddiadau blynyddol, yn parhau i achosi pryder yn 2008.

Mae adroddiad heddiw yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad gynnal arolwg ar unwaith o’r holl ysgolion er mwyn canfod cyflwr toiledau ysgolion, ac yna cymryd camau ar y cyd ag awdurdodau lleol i wneud unrhyw welliannau angenrheidiol.

Mae argymhellion eraill i’r Llywodraeth yn cynnwys galw am adolygiad o rôl bwrsariaid a swyddogion cyllid, sicrhau bod y rhan honno o’r wefan sy’n ymdrin ag ariannu ysgolion, sydd wrthi’n cael ei datblygu, yn cael ei hysbysebu’n helaeth gan Lywodraeth y Cynulliad i rieni, athrawon, llywodraethwyr etc. Dylid hefyd geisio adborth ar ddefnyddioldeb y wefan.

Dywedodd Gareth Jones AC, cadeirydd y pwyllgor: “Mae’r ffaith nad yw’r broses ariannu yn dryloyw, a hynny ddwy flynedd ers yr adroddiad cyntaf ar ariannu ysgolion, yn achos pryder. Rydym yn pryderu’n arbennig am yr effaith andwyol y mae adeiladau ysgol diffygiol yn ei gael ar ddisgyblion.

“Mae’r pwyllgor yn annog y Gweinidog dros Addysg i ystyried pob un o’n hargymhellion yn fanwl ac i ymateb yn brydlon, fel y gellir mynd i’r afael â’r pryderon difrifol sy’n bodoli ynghylch ariannu ysgolion ein plant.”