Adroddiad yn canfod mai dim ond 17% o radd-brentisiaid sy’n fenywod

Cyhoeddwyd 27/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/11/2020

Mae adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi heddiw gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Senedd yn nodi diffyg amrywiaeth amlwg ymhlith myfyrwyr sy'n dilyn gradd-brentisiaethau.

Yn gynharach eleni, lansiodd y Pwyllgor ymchwiliad i gynnydd cynllun peilot gradd-brentisiaethau Llywodraeth Cymru, a ddechreuodd ym mlwyddyn academaidd 2018/2019.

Yn y dystiolaeth a ddaeth i law, clywodd y Pwyllgor fod y cynllun peilot wedi'i strwythuro mewn modd a oedd yn creu anghydbwysedd rhwng y rhywiau oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar sectorau y mae dynion wedi bod yn flaenllaw ynddynt yn draddodiadol. Yn ail, clywodd fod cyflogwyr i raddau helaeth yn rheoli'r broses o recriwtio gradd-brentisiaid yn yr un ffordd â'r broses recriwtio ehangach, gan olygu fod yr anghydbwysedd cyffredinol yn y gweithlu ehangach yn dylanwadu ar y dull o recriwtio gradd-brentisiaid.

Mae'r adroddiad Gradd-brentisiaethau ar gael yma 

Dywedodd Colegau Cymru wrth y Pwyllgor nad oedd yn glir pa fentrau penodol, os o gwbl, a roddwyd ar waith i geisio taro cydbwysedd rhwng y rhywiau, gan ychwanegu os oedd mentrau o'r fath wedi'u cyflwyno, nid oeddent wedi gweithio'n dda.

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi darparu ystadegau sy'n dangos nodweddion personol y bobl a oedd yn rhan o'r cynllun peilot. Mae'r ffigurau ar gyfer y 380 o brentisiaid newydd a'r rheini a barhaodd â'u prentisiaethau yn ystod blwyddyn academaidd 2019/20 yn dangos: 

  • bod 17% yn fenywod;

  • bod 7% wedi datgan bod ganddynt anabledd; a

  • bod 3% yn dod o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn llunio strategaeth i ehangu mynediad at radd-brentisiaethau ar gyfer grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.

Ystod ehangach o bynciau

Ar hyn o bryd, mae'r cynllun peilot wedi'i gyfyngu i ddau faes, sef y maes digidol a gweithgynhyrchu uwch, felly does dim cyfleoedd ar hyn o bryd i wneud cynnydd ar lefel uwch mewn meysydd eraill, fel iechyd a gofal cymdeithasol neu fusnes a rheoli. Clywodd y Pwyllgor fod yna gefnogaeth glir ac eang ar gyfer ymestyn ystod y gradd-brentisiaethau sy'n cael eu cynnig.

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru, drwy Fwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru, yn ystyried ymestyn ystod y gradd-brentisiaethau sydd ar gael drwy gefnogi, cyllido a galluogi'r gwaith o lunio gradd-brentisiaethau newydd nad ydynt wedi'u cyllido gan ddefnyddio arian cyhoeddus a lle bo cyflogwyr yn awyddus i hynny ddigwydd.

Sicrhau dwyieithrwydd

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg, a gyfeiriodd at y diffyg darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r angen am ragor o ddata. Mae hwn yn fater sy'n berthnasol i brentisiaethau yn gyffredinol, a dywedodd y Comisiynydd ei fod hefyd yn debygol o fod yn berthnasol i radd-brentisiaethau. Y tu hwnt i'r ffaith bod 15% o radd-brentisiaid yn siaradwyr Cymraeg, dywedodd y Comisiynydd fod diffyg gwybodaeth am i ba raddau roeddent yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnal a datblygu eu sgiliau Cymraeg.

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut y bydd yn ymateb i bryderon ynghylch sicrhau bod gradd-brentisiaethau'n ystyried y Gymraeg a dwyieithrwydd, ac yn casglu data digonol ynghylch gradd-brentisiaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae COVID-19 yn amlwg wedi cael effaith ddifrifol ar economi Cymru, a gallai gradd-brentisiaethau helpu ein hadferiad.

"Er gwaethaf rhai problemau cychwynnol, ymddengys fod y bobl a gymerodd ran yn y cynllun peilot gradd-brentisiaethau wedi cael profiad cadarnhaol iawn, gyda galw sylweddol am gynnig dewis ehangach o brentisiaethau.

"Fodd bynnag, mae gennym rai pryderon, yn ogystal ag argymhellion ynghylch sut i wella'r ddarpariaeth. Os mai'r bwriad yw ehangu'r cynllun peilot, mae'n hanfodol cymryd camau i ymateb i'r anghydraddoldeb amlwg rhwng y rhywiau o ran yr unigolion sy'n dechrau gradd-brentisiaethau - mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ehangu'r mynediad at radd-brentisiaethau ar gyfer grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.

"Hefyd, mae'n amlwg o'r hyn a glywsom fod galw am ymestyn y mathau o radd-brentisiaethau sydd ar gael." - Dywedodd Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Ychwanegodd Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil ar ran Chwarae Teg:

"Mae'r adroddiad diweddaraf hwn gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn canolbwyntio ar yr anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a welir mewn gradd-brentisiaethau, ac rydym yn croesawu'r gwaith hwn yn fawr iawn. Mae prentisiaethau yn parhau i roi'r ddau ryw ar wahân ar bob lefel, ond maent yn llwybr gynyddol bwysig tuag at gyflogaeth. Mae'n hanfodol, felly, fod camau'n cael eu cymryd i ymdrin â'r anghydbwysedd hwn.

"Mae'r Pwyllgor yn gywir i bwysleisio'r ffordd y mae'r ffocws ar y maes digidol, peirianneg a gweithgynhyrchu wedi cyfrannu at ddiffyg cynrychiolaeth gan fenywod ymhlith gradd-brentisiaid. Yn y dyfodol, gallai defnyddio dull sy'n prif-ffrydio cydraddoldeb, fel yr argymhellir yn yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol, helpu Llywodraeth Cymru i nodi'r mathau hyn o ganlyniadau anghyfiawn wrth ddatblygu polisi a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd o'r cychwyn cyntaf i atal yr effeithiau hyn.    

"I ymdrin â'r materion a nodwyd o ran y gradd-brentisiaethau a ddarperir ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni weld mentrau sy'n canolbwyntio ar gynyddu nifer y menywod sy'n dechrau gyrfaoedd yn y maes digidol, peirianneg a gweithgynhyrchu, sy'n feysydd y gwyddom eu bod yn cynnig cyfleoedd da i wneud cynnydd mewn gyrfa. Gallai pennu targedau ymestynnol ar gyfer darparwyr prentisiaethau helpu i ddatrys hyn. Mae Chwarae Teg hefyd yn croesawu argymhellion i ymestyn gradd-brentisiaethau i sectorau eraill. Yn y sectorau hynny y mae menywod wedi bod yn flaenllaw ynddynt yn draddodiadol, fel gofal plant a gofal cymdeithasol, a lle mae'n anodd gwneud cynnydd mewn gyrfa, gallai gradd-brentisiaethau gynnig llwybr pwysig o ran cynnydd i fenywod, gan herio'r gamdybiaeth hefyd fod y sectorau hyn yn galw am lefel isel o sgiliau." - Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil ar ran Chwarae Teg

Adroddiad Gradd-brentisiaethau