Aelodau Cynulliad yn ymweld â Srebrenica i nodi 20 mlynedd ers y gyflafan

Cyhoeddwyd 10/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/04/2015

​Bydd grŵp o Aelodau'r Cynulliad, dan arweiniad y Dirprwy Lywydd David Melding AC, yn ymweld â Bosnia yr wythnos nesaf (13-16 Ebrill) fel rhan o raglen o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd ers cyflafan Srebrenica.

Ar 11 Gorffennaf 1995, cwympodd Srebrenica, cilfach Fwslemiaid ym Mosnia, dan reolaeth Lluoedd Serbia a dros y 10 diwrnod canlynol, lladdwyd mwy na 8,000 o Foslemiaid yn yr erchylltra gwaethaf yn Ewrop ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Fel rhan o'r digwyddiadau coffáu, bydd y Dirprwy Lywydd, ynghyd â Chomisiynwyr y Cynulliad, Sandy Mewies AC, Rhodri Glyn Thomas AC a Peter Black AC, yn ymweld â Srebrenica fel gwesteion yr elusen o'r DU, Remembering Srebrenica.

Dywedodd y Dirprwy Lywydd: "Mae'n wirionedd arswydus i ddros 8,000 o bobl gael eu lladd ar bridd Ewrop oherwydd eu cred grefyddol mor ddiweddar â 1995.  Hyd yn oed ar ôl 20 mlynedd, mae'r gyflafan yn dal i fod yn annealladwy i lawer ohonom.

"Digwyddodd 50 mlynedd ar ôl yr Holocost, sy'n dangos bod dynoliaeth yn dal yn medru'r fath gasineb.

"Byddwn yn ymweld â Srebrenica ac yn gosod torch yng Nghanolfan Goffa Srebrenica-Potocari.

"Bydd y Cynulliad yn cynnal digwyddiad coffa yn ddiweddarach yn y flwyddyn.  Rhaid inni byth ag anghofio beth ddigwyddodd yn Srebrenica, mae cofio'n ffordd o geisio sicrhau na fydd erchylltra tebyg yn digwydd byth eto."

Ar 8 Gorffennaf eleni, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal un o'r tri digwyddiad coffáu swyddogol ar gyfer y gyflafan yn y DU, gan gynnal derbyniad yn y Senedd.