Aelodau'n talu teyrnged yn y Siambr

Cyhoeddwyd 10/02/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/02/2025

Mi fydd Aelodau o’r Senedd yn talu teyrnged i’w Llywydd cyntaf, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth 11 Chwefror.

Mi fydd y Llywydd, y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, yn arwain y teyrngedau, yna’r Prif Weinidog Eluned Morgan AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Arweinydd Plaid Cymru ac aelodau eraill.  

Mae modd gwylio yn fyw ar Senedd.tv

Mae baneri wedi eu gostwng y tu allan i’r Senedd mewn teyrnged.

Wrth dalu teyrnged, dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS mai Dafydd Elis-Thomas oedd “craig sylfaen ein Senedd” a’i bod hi’n “anodd dychmygu bywyd gwleidyddol Cymru hebddo”.

Yr Arglwydd Elis-Thomas oedd Llywydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr oedd ar y pryd a chafodd ei ethol i wasanaethu yn y rôl am dri thymor, a hynny rhwng 1999 a 2011.  

Fel ffigwr allweddol ar y daith i ddatganoli, arweiniodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas y Cynulliad newydd sbon drwy ei 12 mlynedd cyntaf o fodolaeth. Ei arweinyddiaeth gadarn yn ystod y cyfnod hwn a roddodd y Cynulliad ar y trywydd i fod y senedd y mae heddiw. 

 

Mwy am y stori hon

Darllenwch deyrnged y Llywydd, Elin Jones AS i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas