Aelodau o'r Senedd yn ethol Llywydd a'r Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 12/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yng nghyfarfod cyntaf y chweched Senedd, ar ddydd Mercher 12 Mai 2021, mae'r Aelodau wedi ethol Elin Jones AS fel Llywydd y Senedd, David Rees AS fel y Dirprwy Lywydd ac wedi enwebu Mark Drakeford AS fel Prif Weinidog.

Cynhaliwyd y cyfarfod ar ffurf ‘hybrid’ oherwydd rheolau pellhau cymdeithasol Coronafeirws. Roedd 20 aelod yn bresennol yn y Siambr ac roedd 40 wedi ymuno arlein o’u swyddfeydd. Cafodd pleidlais gudd ei chynnal er mwy i’r Aelodau ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd. Ni chafwyd enwebiad arall ar gyfer Prif Weinidog.

Canlyniad y bleidlais:

Llywydd:
- Elin Jones AS: 35
- Russell George AS: 25

Dirprwy Lywydd:
- David Rees AS: 35
- Hefin David AS: 24