Aelodau’r Cynulliad i drafod yr adroddiad ar Gronfeydd Strwythurol Ewrop

Cyhoeddwyd 20/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Aelodau’r Cynulliad i drafod yr adroddiad ar Gronfeydd Strwythurol Ewrop

20 Hydref 2010

Heddiw (20 Hydref), bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod adroddiad sy’n archwilio Cronfeydd Strwythurol Ewrop.

Mae’r adroddiad, a gynhyrchwyd gan grwp trawsbleidiol y Pwyllgor Menter a Dysgu, yn annog bod cronfeydd strwythurol yn cael eu defnyddio a’u dosbarthu’n fwy creadigol er mwyn sbarduno gwelliannau hirdymor, cynaliadwy yn yr economi yng Nghymru.

Er bod digon o ganmoliaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd i Lywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) o ran gweinyddu’r Cronfeydd Strwythurol, canfu ei ymchwiliad bod materion pwysig y mae angen mynd i’r afael â nhw o hyd.

Mae y rhain yn cynnwys yr angen i gynnwys cwmnïau llai o’r sector preifat a’r trydydd sector wrth weithredu’r rhaglenni a’r effaith negyddol y gallai rheolau caffael y Comisiwn eu cael ar y cymunedau sydd angen elwa fwyaf ar brosiectau a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd.

Hefyd, tynnodd y Pwyllgor sylw at effaith bosibl cyllidebau tynnach yn y sector cyhoeddus ar argaeledd arian cyfatebol ar gyfer prosiectau a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, a’r tebygrwydd o alwadau cynyddol ar Gronfa Llywodraeth Cymru o Arian Cyfatebol a Dargedir yn ystod y cyfnod rhaglennu.

Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu: “Mae’r Gweinidog wedi ein sicrhau na fydd diffyg arian cyfatebol yn fater o bryder, er gwaethaf yr hinsawdd ariannol hon.

“Ond, yn wyneb ansicrwydd o’r fath, yn enwedig gydag adolygiad cynhwysfawr o wariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y gorwel, rydym o’r farn fod angen adolygu’r sefyllfa’n barhaus.

“Roedd gan y Pwyllgor hefyd, bryderon eraill am yr angen i wella’r cyfathrebu rhwng prosiectau ar lefel leol er mwyn osgoi dyblygu’r ymdrech o ran gwireddu amcanion ar y cyd.

“Nod cyffredinol – a llwyddiant eithaf – Ariannu Strwythurol Ewrop fydd cael gwelliannau strwythurol, cynaliadwy yn yr economi yng Nghymru, yn ogystal â gwelliannau yn yr agenda cynhwysiant cymdeithasol.”

Yn ei hymateb ysgrifenedig i’r adroddiad, derbynniodd Llywodraeth Cymru 13 allan o’r 19 argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor, derbyniodd bump arall mewn egwyddor a gwrthododd un.