Cyhoeddwyd 25/01/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Aelodau’r Cynulliad i holi’r Prif Weinidog ynghylch Gwasanaethau Cyhoeddus
Bydd grwp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad yn cael cyfle i holi’r Prif Weinidog Rhodri Morgan ynghylch gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mewn cyfarfod yr wythnos nesaf.
Bydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod ddydd Iau 25 Ionawr am 2 o’r gloch yn Ystafell Bwyllgora xx, y Senedd, Bae Caerdydd.
Y testun ar yr agenda fydd dyfodol y gwasanaethau cyhoeddus. Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Janet Davies AC,: “Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i Aelodau’r Cynulliad holi’r Prif Weinidog yn fanwl ynghylch cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig yn wyneb adroddiad Beecham, sy’n galw am berfformiad gwell, effeithlonrwydd a gwerth am arian yn y gwasanaethau cyhoeddus”.
Nodiadau i’r golygyddion: Cafodd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ei sefydlu ar 22 Chwefror 2005. Fel y nodwyd yn Rheol Sefydlog 18A, diben y Pwyllgor yw clywed tystiolaeth lafar gan y Prif Weinidog ar unrhyw fater o fewn maes atebolrwydd Gweinidogion.
Dyma aelodau’r Pwyllgor:
Janet Davies
Peter Black
Rosemary Butler
Glyn Davies
Janice Gregory
Christine Gwyther
Ann Jones
Sandy Mewies
Gwenda Thomas
Rhodri Glyn Thomas