Aelodau’r Cynulliad i holi’r Prif Weinidog ynghylch Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 25/01/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad i holi’r Prif Weinidog ynghylch Gwasanaethau Cyhoeddus

Bydd grwp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad yn cael cyfle i holi’r Prif Weinidog Rhodri Morgan ynghylch gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mewn cyfarfod yr wythnos nesaf. Bydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod ddydd Iau 25 Ionawr am 2 o’r gloch yn Ystafell Bwyllgora xx, y Senedd, Bae Caerdydd.   Y testun ar yr agenda fydd dyfodol y gwasanaethau cyhoeddus. Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Janet Davies AC,: “Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i Aelodau’r Cynulliad holi’r Prif Weinidog yn fanwl ynghylch cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig yn wyneb adroddiad Beecham, sy’n galw am berfformiad gwell, effeithlonrwydd a gwerth am arian yn y gwasanaethau cyhoeddus”.   Nodiadau i’r golygyddion: Cafodd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ei sefydlu ar 22 Chwefror 2005.  Fel y nodwyd yn Rheol Sefydlog 18A, diben y Pwyllgor yw clywed tystiolaeth lafar gan y Prif Weinidog ar unrhyw fater o fewn maes atebolrwydd Gweinidogion.   Dyma aelodau’r Pwyllgor: Janet Davies Peter Black Rosemary Butler Glyn Davies Janice Gregory Christine Gwyther Ann Jones Sandy Mewies Gwenda Thomas Rhodri Glyn Thomas