Aelodau’r Cynulliad yn cael y cyfle i gynnig deddfau newydd

Cyhoeddwyd 20/02/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad yn cael y cyfle i gynnig  deddfau newydd

Cynhaliwyd falot ar gyfer Aelodau’r Cynulliad nad ydynt yn rhan o’r llywodraeth i deddfu ar gyfer Cymru o dan bwerau newydd y Cynulliad.

Rhoddir cyfle i Nerys Evans AC gyflwyno mesur ar effaith amgylcheddol a chymdeithasol defnydd terfynol a chyrchfan derfynol y deunyddiau ailgylchadwy a gesglir gan awdurdodau lleol tra bydd Huw Lewis AC yn ceisio cael Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch darparu gwasanaethau bysiau a choetsys.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru’n rhoi pwer i’r Cynulliad wneud ei ddeddfwriaeth ei hun ar faterion datganoledig fel iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol. Gelwir y rhain yn Fesurau’r Cynulliad.

Cyn gwneud Mesurau mewn perthynas â maes penodol o lywodraeth ddatganoledig, bydd angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ‘cymhwysedd deddfwriaethol,’yr awdurdod cyfreithiol i basio Mesurau, gan Senedd y DU.

Gellir caniatáu cymhwysedd deddfwriaethol naill ai mewn Deddfau Seneddol neu drwy ddefnyddio’r llwybr newydd o “Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol” (LCO), ac unwaith y caiff y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol ar destun gan Senedd y DU, gall ddechrau ar y broses o basio Mesurau’r Cynulliad.