Aelodau'r Cynulliad yn dymuno lwc i Gymru yng ngweddill cystadleuaeth Ewro 2016

Cyhoeddwyd 23/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/06/2016

 

Mae Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi recordio neges fideo i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed Cymru ar ôl iddynt gyrraedd y rownd nesaf ym mhencampwriaeth pêl-droed Ewro 2016.

Mae'r Aelodau wedi ymuno â'r corws o leisiau sy'n cefnogi'r tîm, sy'n chwarae yn rowndiau terfynol cystadleuaeth bêl-droed fawr am y tro cyntaf ers 1958, a hynny drwy anfon neges fideo i'r tîm yn Ffrainc.

Yn dilyn buddugoliaeth o dair gôl i ddim yn erbyn Rwsia, gorffennodd tîm Cymru ar frig eu grŵp, gan gyrraedd rownd yr 16 olaf yn y gystadleuaeth.

"Mae'r gefnogaeth angerddol a roddwyd i dîm Cymru gan gefnogwyr yma ac yn Ffrainc  wedi bod yn eithriadol," dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Gall Chris Coleman a'i chwaraewyr fod yn falch o'r ffordd y maent wedi cynrychioli ac ysbrydoli'r genedl, ac felly, mae'n gyfle gwych inni allu dangos ein cefnogaeth iddyn nhw.

"O'r Cynulliad Cenedlaethol, rydym yn llongyfarch tîm Cymru ar gyrraedd rownd yr 16 olaf yn y gystadleuaeth ac yn dymuno pob lwc iddyn nhw am weddill yr ymgyrch.

Mae cartref y Cynulliad Cenedlaethol, y Senedd, hefyd wedi'i goleuo'n goch i ddathlu'r achlysur, wrth i'r wlad gyfan ddymuno'n dda i Chris Coleman, y rheolwr, a'i dîm.

Gellir gwylio'r fideo drwy glicio yma.