Aelodau Seneddol i glywed bod y Cynulliad Cenedlaethol ar y blaen o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau

Cyhoeddwyd 08/06/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau Seneddol i glywed bod y Cynulliad Cenedlaethol ar y blaen o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau

Bydd pwyllgor arbennig o Aelodau Seneddol yn clywed tystiolaeth yn y Senedd heddiw (8 Mehefin) am y modd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arloesi o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau.

Bydd Lorraine Barrett, Comisiynydd y Cynulliad dros Gyfle Cyfartal yn dweud wrth Aelodau Seneddol Cynhadledd y Llefarydd mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i gael cydbwysedd rhwng y rhywiau.

Ar un adeg yn yr ail Gynulliad (2003-2007) roedd mwy o fenywod nac o ddynion yn Aelodau Cynulliad.

Mae Cynhadledd y Llefarydd yn bwyllgor arbennig o Aelodau Seneddol a gaiff ei sefydlu i ystyried pwnc penodol.

Sefydlwyd y gynhadledd benodol hon er mwyn ystyried y rhesymau pam nad oes gan fenywod, pobl anabl a phobl o leiafrifoedd ethnig gynrychiolaeth ddigonol yn Nhy’r Cyffredin.

A dyma’r tro cyntaf i Gynhadledd y Llywydd gymryd tystiolaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Mae gennym stori dda i’w hadrodd o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau,” meddai Lorraine Barrett AC.

“Cawsom gydbwysedd rhwng y rhywiau yn ystod yr ail dymor ac er bod mwy o ddynion wedi cael eu hethol yn Aelodau’r Cynulliad yn 2007, mae 47% o’r Aelodau presennol yn fenywod.”

“Wrth gymharu hynny â Thy’r Cyffredin, rydym ar y blaen o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau.”

Bydd y comisiynydd yn dweud wrth Aelodau Seneddol bod gwaith ymchwil yn dangos mai’r rhesymau dros gynrychiolaeth fwy cytbwys yw ffactorau fel:

  • sefydliad newydd sydd ag arferion gweithio sy’n fwy ystyriol o deuluoedd

  • a bod mwy o fenywod yn cael eu dyrchafu i swyddi pwerus, hy mwy o weinidogion cabinet benywaidd (mae 4 o’r 10 gweinidog yn fenywod a 2 o’r 4 dirprwy weinidog yn fenywod)

Cyflwynir tystiolaeth hefyd am yr hyn y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei wneud i annog mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig i gymryd rhan.

Er enghraifft, mae’r Cynulliad wedi cefnogi Cynllun Cysgodi Operation Black Vote, sy’n galluogi aelodau o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig Cymru i gysgodi Aelod Cynulliad am chwe mis.

O ganlyniad i lwyddiant y cynllun, mae trefniadau ar y gweill bellach i’w gyflwyno i grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl lesbiaid, hoyw a deurywiol, pobl anabl, pobl ifanc, pobl drawsrywiol a menywod.