Byrllysg y Senedd

Byrllysg y Senedd

Agoriad Seremonïol y Seithfed Senedd

Cyhoeddwyd 23/09/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/09/2026   |   Amser darllen munud

Bydd Eu Mawrhydi y Brenin a'r Frenhines yn bresennol yn Agoriad Seremonïol y Seithfed Senedd ddydd Iau 15 Hydref.  

Bydd y digwyddiad yn dwyn ynghyd bobl a chymunedau o bob cwr o Gymru, gyda pherfformiadau cerddorol wrth wraidd seremoni a fydd yn dathlu diwylliant a dyfodol democrataidd y genedl.

Yn ystod agoriad seremonïol y Senedd, bydd Ei Fawrhydi Y Brenin yn traddodi araith yn Siambr y Senedd, sef y siambr drafod, yn ogystal â Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies AS, a Phrif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth AS.  

Bydd yn nodi moment hollbwysig yn hanes y Senedd: agor ei senedd fwyaf cynrychioliadol hyd yma, gyda 96 o Aelodau yn dod ag ystod ehangach o brofiad byw i'w gwaith ac yn cryfhau ei gallu i graffu ar Lywodraeth Cymru.

Disgwylir Eu Mawrhydi ym Mae Caerdydd tua amser cinio ddydd Iau 15 Hydref. Mae croeso i bobl ymgynnull y tu allan i'r Senedd i wylio a bod yn rhan o'r digwyddiad arbennig hwn.