Bydd Ei Mawrhydi'r Frenhines yn mynychu agoriad swyddogol chweched sesiwn y Senedd ar ddydd Iau 14 Hydref.
Mi fydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau creadigol gan berfformwyr o bobl cwr o Gymru, ond, oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws, am y tro cyntaf mi fydd rhai perfformiadau yn digwydd yn fyw ac eraill wedi’u recordio ymlaen llaw.
Yn ystod agoriad swyddogol y Senedd, mi fydd y Frenhines yn gwneud araith yn y Siambr, ynghyd â Llywydd y Senedd, Elin Jones AS, a’r Prif Weinidog, Mark Drakeford AS.
Mi fydd y Byrllysg seremonïol yn cael ei gario i'r Senedd a'i osod yn y Siambr er mwyn dynodi agoriad swyddogol y chweched Senedd.
Gohiriwyd dyddiad yr agoriad swyddogol eleni oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws.
Bydd mwy o fanylion am y trefniadau yn cael eu cyhoeddi yn y man.
Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd
Cyhoeddwyd 27/08/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau