Bydd Ei Mawrhydi y Frenhines, Aelodau’r Cynulliad a chynrychiolwyr o bob rhan o Gymru yn bresennol ar gyfer Agoriad Swyddogol y Pumed Cynulliad ar 7 Mehefin 2016 am 11.15, ynghyd â Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ac Ei Huchelder Duges Cernyw.
Prif elfen y seremoni fydd areithiau gan Elin Jones AC, y Llywydd, Ei Mawrhydi'r Frenhines a Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog.
Yn ystod y seremoni, bydd y byrllysg yn cael ei gludo i mewn i’r Cynulliad, a’i osod yn ei le priodol i ddynodi agoriad y Cynulliad newydd. Bydd cludydd y byrllysg yn gwisgo tlws sy’n gopi o’r byrllysg rhodd gan Clogau, cwmni gemwaith o Gymru, wrth iddo droi’r byrllysg yn symbolaidd o flaen Ei Mawrhydi.
Bydd bywyd diwylliannol Cymru yn ganolog i’r digwyddiadau seremonïol.
Bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio gwaith corawl cwbl newydd a gomisiynwyd yn arbennig, a gyfansoddwyd gan yr Athro Paul Mealor, i eiriau “Wrth ddŵr a thân” gan Dr Grahame Davies. Bydd myfyriwr o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yn adrodd cerdd newydd gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, sef “Y tŷ hwn”, a gaiff ei chyflwyno’n rhodd i Ei Mawrhydi'r Frenhines gan y Cynulliad i nodi ei phen-blwydd yn 90 oed. Bydd Only Boys Aloud hefyd yn perfformio ar gyfer Ei Mawrhydi.
Mae plant a phobl ifanc ledled Cymru wedi’u gwahodd i fod yn bresennol ar y diwrnod. Byddant yn croesawu’r Parti Brenhinol wrth iddynt gyrraedd y Senedd.
Mae gwesteion eraill a wahoddwyd i’r agoriad yn cynnwys rhanddeiliaid o wahanol sectorau sydd wedi ymgysylltu â’r Cynulliad ac y byddwn yn parhau i ddatblygu perthynas weithio â nhw dros gyfnod y Pumed Cynulliad.
Gwahoddir y cyhoedd hefyd i ddod i wylio’r seremoni y tu allan i’r Senedd, lle bydd sgrîn fawr yn cael ei gosod i chi allu gweld y cyfan.
Ail-agorir y Senedd i’r cyhoedd ar ôl yr Agoriad swyddogol (o 13.00 ymlaen) a rydym yn estyn croeso cynnes i bawb gyda chacennau cri a theithiau am ddim.
Gall pobl sy’n methu â bod yno ar y diwrnod wylio’r digwyddiad yn fyw ar Senedd.tv.
Y Seremoni
Mewn cam arwyddocaol tuag at greu mwy o naws swyddogol i’r digwyddiad, bydd cludydd y byrllysg yn gwisgo tlws aur 18 carat sy’n gopi o’r byrllysg ac yn rhodd gan gwmni Clogau, wrth iddo droi’r byrllysg yn symbolaidd o flaen Ei Mawrhydi.
Fel un o’i chyfrifoldebau cyntaf fel Llywydd y Cynulliad, bydd Elin Jones AC yn croesawu’r Parti Brenhinol i’r Senedd.
Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd: "Mae’n bwysig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei gadarnhau fel canolbwynt ar gyfer bywyd dinesig, gwleidyddol a diwylliannol Cymru.
"Dyna pam mae Agoriad Swyddogol y Cynulliad yn rhan mor bwysig o fywyd Cymru. Dyma Agoriad Swyddogol Senedd Cymru a dyna pam y mae angen inni sicrhau bod yr achlysur ei hun yn adlewyrchu’r pwysigrwydd hwnnw.
"Mae hefyd yn gyfle i ni arddangos a dathlu’r doniau sydd gennym yma yng Nghymru, wrth i ni nodi dechrau Pumed Cynulliad Cenedlaethol Cymru."
Rôl cludydd y byrllysg
Yn ystod y seremoni, bydd y byrllysg yn cael ei gludo i mewn i’r Cynulliad, a’i osod yn ei le priodol i ddynodi agoriad y Cynulliad newydd. Mae rôl cludydd y byrllysg yn cynnwys arwain yr orymdaith o Aelodau’r Cynulliad sydd newydd eu hethol, a’r Farnwriaeth, i mewn i’r Senedd ar y diwrnod.
Wrth i Ei Mawrhydi y Frenhines gyrraedd y Senedd, bydd cludydd y byrllysg wedyn yn arwain Elin Jones AC, y Llywydd; y Prif Weinidog Carwyn Jones AC, ac aelodau’r Senedd a fydd yn eu derbyn, o’r Siambr i’r Cwrt i groesawu’r Parti Brenhinol.
Wrth i’r Parti Brenhinol ddod i mewn, bydd y cludydd yn gwrthdroi’r byrllysg, yn ymgrymu ac yn camu i ffwrdd i arwain y Parti Brenhinol i lawr y grisiau i’r Cwrt. Rôl olaf cludydd y byrllysg yw gosod y byrllysg yn ei le priodol.
Mae’r byrllysg yn rhodd i’r Cynulliad gan Senedd De Cymru Newydd yn Awstralia, ac fe’i cyflwynwyd i’r Cynulliad ar 1 Mawrth 2006 yn ystod yr Agoriad Brenhinol.
Dewiswyd Chetan Patel, Rheolwr Diogelwch yn y Cynulliad Cenedlaethol, i fod yn gludydd y byrllysg yn Agoriad y Pumed Cynulliad. Gwahoddwyd ceisiadau am y rôl o blith staff diogelwch y Cynulliad, a dewiswyd Chetan yn dilyn proses gyfweld.
Mae Chetan wedi byw yng Nghymru ers dros 35 mlynedd ar ôl symud yma gyda’i deulu o Uganda ym 1972.
Dywedodd Chetan: "Rwyf wedi bod yn gweithio yn y Cynulliad dros y 10 mlynedd ddiwethaf ac rwy’n teimlo’n hynod o freintiedig o gael fy newis ar gyfer rôl cludydd y byrllysg yn yr agoriad hwn.
"Rwy’n teimlo’n falch o fod yn cynrychioli’r gymuned Gymreig a Hindŵaidd yn y rôl hon."
"Rwyf wedi bod yn gwylio ffilm o’r Agoriad Swyddogol diwethaf yn 2011 i weld beth sy’n digwydd o ran y byrllysg yn ystod y seremoni, ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r seremoni."
Bydd Chetan yn gwisgo tlws sy’n rhodd garedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Clogau. Bydd y cludydd yn gwisgo’r tlws wrth symud y byrllysg o’r Siambr ar ddiwedd cyfnod y Cynulliad neu pan fydd yn dod yn ôl ar ddechrau Cynulliad newydd.
Dywedodd Ben Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwr Clogau, "Mae’n anrhydedd gennym gyflwyno ein tlws aur hardd 18 carat a wnaed â llaw, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Perfformiadau
- Myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
- Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’r Athro Paul Mealor
Bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, y mae ei aelodau yn dod o ardaloedd ar hyd a lled Cymru, yn perfformio yn y Siambr waith corawl cwbl newydd a gomisiynwyd yn arbennig, a gyfansoddwyd gan yr Athro Paul Mealor i eiriau gan Dr Grahame Davies.
- Cerdd
- Only Boys Aloud
- Ffanfferau
- Anne Denholm
Gwesteion
Ysgol y Castell, Caerffili | Y Geidiaid |
Ysgol Sant Cuthbert, Caerdydd | Cabinet Ieuenctid Bro Morgannwg |
Ysgol Uwchradd Bodedern, Ynys Môn | Cyngor Ieuenctid Sir Caerfyrddin |
Ysgol Brynteg, Pen-y-Bont ar Ogwr | Mixtup, Tîm Cefnogi Pobl Ifanc Ethnig |
Ysgol Gynradd Mount Stuart, Caerdydd | Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion |
Ysgol Gynradd Waunarlwydd, Abertawe | Youth Cymru |
Ysgol Glan y Môr, Porth Tywyn | Aelod o Fforwm Ieuenctid Powys |
Ysgol Gynradd Cadle, Abertawe | Sgowtiaid Cymru |
Ysgol Gyfun Treorci, Treorci | Teithio Ymlaen, Achub y Plant |
Clybiau Bechgyn a Merched Cymru | Fforwm Pobl Ifanc Torfaen |
Amserlen
11.30 | Cyfarchiad 21 Ergyd |
11.40 | Y parti Brenhinol yn cyrraedd y Senedd |
11.45 | Y seremoni yn dechrau yn y Siambr, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio |
12.00 | Herodr Cymru yn arwain y parti Brenhinol allan o’r Siambr, Only Boys Aloud yn perfformio |
13.00 | Y Senedd yn ail-agor i’r cyhoedd gyda chacennau cri a theithiau am ddim |