Agoriad swyddogol y Pumed Cynulliad yn rhoi llwyfan i ddathlu bywyd diwylliannol Cymru

Cyhoeddwyd 27/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/06/2016

Bydd Ei Mawrhydi y Frenhines, Aelodau’r Cynulliad a chynrychiolwyr o bob rhan o Gymru yn bresennol ar gyfer Agoriad Swyddogol y Pumed Cynulliad ar 7 Mehefin 2016 am 11.15, ynghyd â Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ac Ei Huchelder Duges Cernyw.

 

Prif elfen y seremoni fydd areithiau gan Elin Jones AC, y Llywydd, Ei Mawrhydi'r Frenhines a Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog.

 

Yn ystod y seremoni, bydd y byrllysg yn cael ei gludo i mewn i’r Cynulliad, a’i osod yn ei le priodol i ddynodi agoriad y Cynulliad newydd.  Bydd cludydd y byrllysg yn gwisgo tlws sy’n gopi o’r byrllysg rhodd gan Clogau, cwmni gemwaith o Gymru, wrth iddo droi’r byrllysg yn symbolaidd o flaen Ei Mawrhydi.

 

Bydd bywyd diwylliannol Cymru yn ganolog i’r digwyddiadau seremonïol. 

 

Bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio gwaith corawl cwbl newydd a gomisiynwyd yn arbennig, a gyfansoddwyd gan yr Athro Paul Mealor, i eiriau “Wrth ddŵr a thân” gan Dr Grahame Davies.   Bydd myfyriwr o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yn adrodd cerdd newydd gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, sef “Y tŷ hwn”, a gaiff ei chyflwyno’n rhodd i Ei Mawrhydi'r Frenhines gan y Cynulliad i nodi ei phen-blwydd yn 90 oed.  Bydd Only Boys Aloud hefyd yn perfformio ar gyfer Ei Mawrhydi.

Mae plant a phobl ifanc ledled Cymru wedi’u gwahodd i fod yn bresennol ar y diwrnod. Byddant yn croesawu’r Parti Brenhinol wrth iddynt gyrraedd y Senedd.

Mae gwesteion eraill a wahoddwyd i’r agoriad yn cynnwys rhanddeiliaid o wahanol sectorau sydd wedi ymgysylltu â’r Cynulliad ac y byddwn yn parhau i ddatblygu perthynas weithio â nhw dros gyfnod y Pumed Cynulliad.

 

Gwahoddir y cyhoedd hefyd i ddod i wylio’r seremoni y tu allan i’r Senedd, lle bydd sgrîn fawr yn cael ei gosod i chi allu gweld y cyfan.

 

Ail-agorir y Senedd i’r cyhoedd ar ôl yr Agoriad swyddogol (o 13.00 ymlaen) a rydym yn estyn croeso cynnes i bawb gyda chacennau cri a theithiau am ddim.

Gall pobl sy’n methu â bod yno ar y diwrnod wylio’r digwyddiad yn fyw ar Senedd.tv.

Y Seremoni

 

Mewn cam arwyddocaol tuag at greu mwy o naws swyddogol i’r digwyddiad, bydd cludydd y byrllysg yn gwisgo tlws aur 18 carat sy’n gopi o’r byrllysg ac yn rhodd gan gwmni Clogau, wrth iddo droi’r byrllysg yn symbolaidd o flaen Ei Mawrhydi. 

Fel un o’i chyfrifoldebau cyntaf fel Llywydd y Cynulliad, bydd Elin Jones AC yn croesawu’r Parti Brenhinol i’r Senedd.

Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd: "Mae’n bwysig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei gadarnhau fel canolbwynt ar gyfer bywyd dinesig, gwleidyddol a diwylliannol Cymru.

"Dyna pam mae Agoriad Swyddogol y Cynulliad yn rhan mor bwysig o fywyd Cymru. Dyma Agoriad Swyddogol Senedd Cymru a dyna pam y mae angen inni sicrhau bod yr achlysur ei hun yn adlewyrchu’r pwysigrwydd hwnnw.

"Mae hefyd yn gyfle i ni arddangos a dathlu’r doniau sydd gennym yma yng Nghymru, wrth i ni nodi dechrau Pumed Cynulliad Cenedlaethol Cymru."

Rôl cludydd y byrllysg

Yn ystod y seremoni, bydd y byrllysg yn cael ei gludo i mewn i’r Cynulliad, a’i osod yn ei le priodol i ddynodi agoriad y Cynulliad newydd. Mae rôl cludydd y byrllysg yn cynnwys arwain yr orymdaith o Aelodau’r Cynulliad sydd newydd eu hethol, a’r Farnwriaeth, i mewn i’r Senedd ar y diwrnod. 

Wrth i Ei Mawrhydi y Frenhines gyrraedd y Senedd, bydd cludydd y byrllysg wedyn yn arwain Elin Jones AC, y Llywydd; y Prif Weinidog Carwyn Jones AC, ac aelodau’r Senedd a fydd yn eu derbyn, o’r Siambr i’r Cwrt i groesawu’r Parti Brenhinol.
 
Wrth i’r Parti Brenhinol ddod i mewn, bydd y cludydd yn gwrthdroi’r byrllysg, yn ymgrymu ac yn camu i ffwrdd i arwain y Parti Brenhinol i lawr y grisiau i’r Cwrt. Rôl olaf cludydd y byrllysg yw gosod y byrllysg yn ei le priodol.

Mae’r byrllysg yn rhodd i’r Cynulliad gan Senedd De Cymru Newydd yn Awstralia, ac fe’i cyflwynwyd i’r Cynulliad ar 1 Mawrth 2006 yn ystod yr Agoriad Brenhinol.

Dewiswyd Chetan Patel, Rheolwr Diogelwch yn y Cynulliad Cenedlaethol, i fod yn gludydd y byrllysg yn Agoriad y Pumed Cynulliad. Gwahoddwyd ceisiadau am y rôl o blith staff diogelwch y Cynulliad, a dewiswyd Chetan yn dilyn proses gyfweld.  
 
Mae Chetan wedi byw yng Nghymru ers dros 35 mlynedd ar ôl symud yma gyda’i deulu o Uganda ym 1972.

Dywedodd Chetan: "Rwyf wedi bod yn gweithio yn y Cynulliad dros y 10 mlynedd ddiwethaf ac rwy’n teimlo’n hynod o freintiedig o gael fy newis ar gyfer rôl cludydd y byrllysg yn yr agoriad hwn.

"Rwy’n teimlo’n falch o fod yn cynrychioli’r gymuned Gymreig a Hindŵaidd yn y rôl hon."

"Rwyf wedi bod yn gwylio ffilm o’r Agoriad Swyddogol diwethaf yn 2011 i weld beth sy’n digwydd o ran y byrllysg yn ystod y seremoni, ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r seremoni."

Bydd Chetan yn gwisgo tlws sy’n rhodd garedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Clogau. Bydd y cludydd yn gwisgo’r tlws wrth symud y byrllysg o’r Siambr ar ddiwedd cyfnod y Cynulliad neu pan fydd yn dod yn ôl ar ddechrau Cynulliad newydd.

Dywedodd Ben Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwr Clogau, "Mae’n anrhydedd gennym gyflwyno ein tlws aur hardd 18 carat a wnaed â llaw, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

 

Perfformiadau

  • Myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
 
Fel dathliad o ddiwylliant Cymru, mae rhaglen gerddorol helaeth wedi’i threfnu ar gyfer y digwyddiad, gyda pherfformiadau gan wahanol fyfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
 
  • Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’r Athro Paul Mealor

Bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, y mae ei aelodau yn dod o ardaloedd ar hyd a lled Cymru, yn perfformio yn y Siambr waith corawl cwbl newydd a gomisiynwyd yn arbennig, a gyfansoddwyd gan yr Athro Paul Mealor i eiriau gan Dr Grahame Davies.
 
  • Cerdd
 
Comisiynwyd Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, drwy Llenyddiaeth Cymru, i gyfansoddi cerdd i nodi’r achlysur. Bydd cerdd "Y Tŷ Hwn" yn cael ei darllen yn Gymraeg a Saesneg gan Maeve Tonkin-Wells, sy’n fyfyriwr yn ei thrydedd flwyddyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bydd y gerdd hefyd yn cael ei rhoi’n rhodd i Ei Mawrhydi y Frenhines i nodi ei phen-blwydd yn 90 mlwydd oed.
  • Only Boys Aloud
 
Bydd côr Only Boys Aloud, dan arweiniad Tim Rhys Evans, hefyd yn perfformio yn y Senedd yn ystod y digwyddiad. Mae Only Boys Aloud, sy’n dathlu ei bumed pen-blwydd eleni, yn gôr o ddynion ifanc rhwng 13 a 19 mlwydd oed o bob rhan o Gymru.  Ar hyn o bryd, ceir 10 o grwpiau lleol parhaol yn Ne Cymru a phedwar o gorau yng Ngogledd Cymru.
 
  • Ffanfferau
 
Yn ystod y digwyddiad bydd Utganwyr y Fyddin yn chwarae dau ffanffer, gyda’r prif ffanffer wedi’i gomisiynu gan Tŷ Cerdd, a’i gyfansoddi gan Tom Davoren.
 
Mae Tom Davoren yn gyfansoddwr ac yn arweinydd band sy’n prysur ennill enw da iddo’i hun yn rhyngwladol. Astudiodd y tiwba gyda Nigel Seaman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac mae ganddo Radd Baglor a Gradd Meistr mewn cyfansoddi. Clywir a chomisiynir ei gerddoriaeth drwy’r byd.
 
  • Anne Denholm
 
Bydd Anne Denholm, y delynores, hefyd yn perfformio yn ystod y digwyddiad. Anne yw un o delynorion ifanc mwyaf blaenllaw Prydain, ac mae’n Delynores Swyddogol i Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Cafodd Anne ei Gradd Meistr gyda chlod o’r Academi Gerdd Frenhinol (RAM) yn Llundain, gan raddio â Gwobr Renata Scheffel-Stein ar gyfer y Delyn, Gwobr Syr Reginald Thatcher, a Gwobr Rhaglywiaeth am gyrhaeddiad nodedig. Pan oedd yn yr Academi Gerdd Frenhinol, hi oedd y telynor cyntaf erioed i ennill y wobr hanesyddol Clwb RAM, ac enillodd Wobr Skaila Kanga ar gyfer y Delyn ddwywaith.
 
 

Gwesteion

Mae plant a phobl ifanc ledled Cymru wedi’u gwahodd i fod yn bresennol ar y diwrnod. Yn y Senedd, ac yn croesawu’r parti Brenhinol wrth iddynt gyrraedd bydd cynrychiolwyr o:
 
 
Mae gwesteion eraill a wahoddwyd i’r agoriad yn cynnwys rhanddeiliaid o wahanol sectorau sydd wedi ymgysylltu â’r Cynulliad ac y byddwn yn parhau i ddatblygu perthynas weithio â nhw dros gyfnod y Pumed Cynulliad.
 
Gwahoddir y cyhoedd hefyd i ddod i wylio’r seremoni y tu allan i’r Senedd, lle bydd sgrîn fawr yn cael ei gosod i bawb allu gweld y cyfan. Gall pobl sy’n methu â bod yno ar y diwrnod wylio’r digwyddiad yn fyw ar Senedd.tv.

Amserlen

 
​11.30​Cyfarchiad 21 Ergyd
​11.40Y parti Brenhinol yn cyrraedd y Senedd
​11.45Y seremoni yn dechrau yn y Siambr, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio
12.00Herodr Cymru yn arwain y parti Brenhinol allan o’r Siambr, Only Boys Aloud yn perfformio
​13.00Y Senedd yn ail-agor i’r cyhoedd gyda chacennau cri a theithiau am ddim