Ai ffordd y Cynulliad o wneud pethau sydd orau? - 60 o Seneddwyr o'r Gymanwlad yn mynychu cynhadledd #BIMR2014 yn y Senedd
20 Mai 2014
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal un o brif gynadleddau'r Gymanwlad yn y Senedd ar 28 a 29 Mai.
Bydd Cynhadledd Rhanbarth Ynysoedd Prydain a Gwledydd Môr y Canoldir o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn cael ei chynnal yn y Senedd.
Bydd 60 o gynrychiolwyr, o ddeddfwrfeydd sydd mor bell i ffwrdd â Chyprus, Ynysoedd Falkland, St Helena, a Malta, yn ogystal â chynrychiolwyr o seneddau eraill y DU, yn bresennol er mwyn ceisio rhannu arfer gorau.
Bydd cynrychiolwyr o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad o Ganada, Awstralia, y Caribî ac Affrica yn dod i arsylwi hefyd, gan gynnig amrywiaeth o safbwyntiau a dulliau o weithio rhyngwladol o ran democratiaeth seneddol i'r digwyddiad.
Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler, Llywydd y Cynulliad, "Mae llawer o gyrff deddfwriaethol, ar lefel ranbarthol a chenedlaethol-wladwriaethol yn edrych fwyfwy ar y Cynulliad Cenedlaethol i gael gwybod sut y mae'n craffu ar ddeddfwriaeth a pholisïau, yn ogystal ag ar sut y mae'n cyfathrebu â'r cyhoedd ac yn cefnogi Aelodau'r Cynulliad."
"Ers dod yn Llywydd, rwyf wedi croesawu nifer o ymwelwyr rhyngwladol, gan gynnwys ymweliad diweddar gan gynrychiolwyr o Senedd Canada a ddaeth i ddysgu am nifer o agweddau ar ein gwaith, gan gynnwys sut rydym ni'n gweithio'n ddwyieithog a sut rydym ni'n craffu ar waith polisi amgylcheddol.
"Rydym hefyd wedi cael ymweliadau rheolaidd gan seneddwyr o wledydd mor bell i ffwrdd â Thrinidad a Tobago, Uganda ac Ynysoedd Aland yn y Baltig- roedden nhw oll am ddysgu gennym ni.
"Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei ystyried yn sefydliad enghreifftiol o ran cydraddoldeb a hygyrchedd, ond yn ogystal ag arddangos a thrafod ein profiadau ni ein hunain, rydym, wrth gwrs, yn awyddus i ddysgu o arfer gorau yn rhyngwladol ac i drafod meysydd o ddiddordeb cyffredin.
"Mae'r gynhadledd hon yn gyfle i arddangos y Cynulliad Cenedlaethol fel sefydliad democrataidd ar wahân ac fel sefydliad democrataidd blaengar yn lleoliad eiconig y Senedd i gynulleidfa ddylanwadol o seneddwyr rhyngwladol."
Wrth gynnal y gynhadledd, roedd y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu gosod yr agenda ar gyfer y ddau ddiwrnod o drafodaeth.
Thema'r gynhadledd fydd "Mynediad Cyfartal at Ddemocratiaeth" a bydd yn cynnwys sesiynau Cyfarfod Llawn ar:
Ymgyrchu dros gael rhagor o fenywod mewn bywyd cyhoeddus – y Cadeirydd: Y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
Dwyieithrwydd a rôl ieithoedd swyddogol yn y Senedd – y Cadeirydd: Simon Thomas AC, aelod o Bwyllgor Gweithredol Cangen Cymdeithas y Gymanwlad Cymru;
Cynnwys Dinasyddion Ifanc yn y Broses Ddemocrataidd – y Cadeirydd: David Melding AC, Is-Lywydd Cangen Cymru o Gymdeithas y Gymanwlad a Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd Joyce Watson AC, Cadeirydd Cangen Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, "Mae'r gynhadledd hon yn gyfle unigryw i seneddau ledled rhanbarth ynysoedd Prydain a gwledydd Môr y Canoldir a thu hwnt i ymgysylltu â'i gilydd ynghylch y ffordd orau i wasanaethu'r bobl sy'n eu hethol."
"Rydym wedi dewis tair prif thema, sy'n deillio o'r adborth a gafwyd gan gynrychiolwyr yn y gorffennol ynghylch eu diddordeb ym mhrofiadau cadarnhaol y Cynulliad a'i enw da yn rhyngwladol yn y meysydd hyn."
I gael rhagor o fanylion am ranbarth Ynysoedd Prydain a Môr y Canoldir cliciwch yma.
Neu dilynwch #BIMR2014 ar Twitter.