Mae angen canllawiau statudol i roi terfyn ar yr anghysondebau o ran asesu a rhoi bathodynnau glas ledled Cymru, yn ôl Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Cynulliad Cenedlaethol.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol, nid yw’r rhain yn rhwymo’n gyfreithiol, ac o ganlyniad mae 22 o wahanol ffyrdd o weinyddu Cynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru.
Er enghraifft, mewn rhai ardaloedd mae therapyddion galwedigaethol arbenigol yn asesu ymgeiswyr tra bod eraill yn dibynnu ar asesiadau a wneir gan staff cyffredin.
Dywedodd elusen canser Tenovus wrth y Pwyllgor:
“Mae rhai ardaloedd yn mynnu bod cleientiaid yn gwneud apwyntiad i gwblhau cais, ac mae ardaloedd eraill yn caniatáu i’n Hymgynghorwyr Cymorth Canser ni anfon cais ar ran cleient. Mae gan rai ardaloedd ffurflenni cais ar-lein, ac ardaloedd eraill heb hynny. Mae rhai yn mynnu asesiadau, tra bo eraill ddim. Mae rhai yn derbyn llythyrau eglurhaol gan Nyrsys Clinigol Arbenigol, tra bo eraill yn gwrthod hynny. Mae rhai yn derbyn llythyrau eglurhaol gan feddygon teulu, ac eraill ddim.”
Yn 2015, fe wnaeth grŵp gorchwyl a gorffen, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, argymell y dylai corff canolog gydgysylltu’r gwaith o ddarparu’r Cynllun, er mwyn gwella cysondeb. Nid yw’n glir pa gynnydd a wnaed o ran gweithredu rhai o argymhellion y grŵp.
Nid oes ffordd i apelio’n ffurfiol yn erbyn penderfyniad o ran y bathodyn glas, ond fe wnaeth y Pwyllgor ddarganfod fod modd i bobl ymgeisio eto gan ddarparu rhagor o wybodaeth i gefnogi eu cais. Yn aml, mae’r wybodaeth yma naill ai’n ddryslyd neu nid yw ar gael o gwbl.
Fe ddysgodd y Pwyllgor hefyd fod y broses o adnewyddu bathodynnau glas yn gallu bod yn anodd ac y gallai, o bosibl, darfu ar rywun. Nid oes yn rhaid i bobl sydd â hawl awtomatig i fathodyn glas ail-ymgeisio, ond mae’n rhaid i bobl ail-ymgeisio os oes angen asesiadau pellach arnynt, ac mae hynny yn cynnwys pobl sydd â chyflyrau dirywiol fel Alzheimer, hyd yn oed os yw eu cyflwr yn gyflwr am oes.
Dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: “Mae bathodynnau glas yn adnodd hanfodol i lawer iawn o bobl yn ein cymdeithas. Hebddynt byddai llawer yn ei chael hi’n anodd cyrraedd gwasanaethau hanfodol, fel mynd i apwyntiadau meddygol.
“Byddai anhawster i ymweld â siopau ac i ddefnyddio cyfleusterau hamdden yn lleihau eu gallu i fyw yn annibynnol, ac fe allent fynd yn fwy unig a chaeth i’w cartrefi.
“Mae trefniadau gwahanol ar draws y 22 o gynghorau yn golygu fod y cynllun yn cael ei weithredu’n anghyson ar draws Cymru.
“Dylai mynd i’r afael â hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, fel y gall pawb gael gwasanaeth o ansawdd, waeth ble maent yn byw.
“Rhaid i’r system fod yn addas i’r diben o ystyried ei phwysigrwydd i’n cymunedau.”
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 19 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sefydlu gweithgor statudol o gynrychiolwyr awdurdodau lleol ar gyfer cynllun y Bathodyn Glas. Ar ôl ei sefydlu, dylai’r grŵp gyfarfod yn rheolaidd i rannu gwybodaeth ac arfer da wrth roi’r cynllun ar waith. Dylai’r grŵp gynnwys cynrychiolwyr sydd â phrofiad personol o’r cynllun er mwyn sicrhau y caiff barn y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ei chynrychioli;
Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu proses i alluogi’r rheini sy’n dioddef o gyflwr gydol oes neu ddirywiol i adnewyddu eu bathodyn glas yn awtomatig, heb asesiad pellach. Byddai’r gweithgor yr ydym wedi argymell y dylid ei sefydlu yn fforwm amlwg i hwyluso trafodaethau o’r fath; a,
Dylai Llywodraeth Cymru gymryd y camau angenrheidiol i ddiwygio Adran 21 Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi proses ‘ailystyried’ neu ‘adolygu’ mewn lle i ymdrin ag ymgeiswyr sy’n dymuno herio penderfyniad yr awdurdod ar gais am fathodyn glas. Dylai’r diwygiad i’r Ddeddf honno gynnwys pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau statudol ar fanylion y broses.
Mi fydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.
Darllen yr adroddiad llawn:
Cynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu (PDF, 893 KB)