Angen dechrau o’r newydd gyda chontractau deintyddol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 22/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/05/2019

Byddai cyflwyno system newydd yn lle'r targedau presennol mewn contractau deintyddol yng Nghymru o fudd i ddeintyddion a chleifion, ac yn hybu morâl yn y sector, yn ôl Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol.

Cafodd y contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG ei gyflwyno yng Nghymru yn 2006 ac mae'n talu swm blynyddol am waith deintyddol, sy'n cael ei rannu'n Unedau Gweithgarwch Deintyddol.

Oherwydd bod y taliad yr un fath ni waeth faint o driniaethau tebyg y mae deintydd yn ei roi, clywodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gymhelliad i ddeintyddion dderbyn cleifion ag anghenion dwys, oherwydd y byddent yn cael eu talu'r un faint am wneud mwy o waith.

Mae'r Pwyllgor yn pryderu y gallai system bresennol yr Unedau Gweithgarwch Deintyddol atal rhai deintyddion rhag derbyn cleifion ag anghenion dwys, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig lle mae mynediad at wasanaethau deintyddol eisoes yn waeth.

Dywedodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:

"Yr hyn sy'n amlwg i'r Pwyllgor hwn yw nad yw trefniadau presennol y GIG ar gyfer contractau deintyddion yn gweithio.

"Nid oes fawr o synnwyr mewn talu'r un faint am bob cwrs o driniaeth, ni waeth faint o waith sydd ei angen y claf.  

"Felly, mae'r Pwyllgor o'r farn ei bod hi'n hen bryd dirwyn y trefniadau presennol i ben a dod o hyd i ffordd newydd o sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at wasanaethau deintyddol o safon."

Hefyd, edrychodd y Pwyllgor ar amseroedd aros am driniaeth orthodontig a ffyrdd o wella'r rhain.

Croesawyd y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran ei Chynllun Gwên ar gyfer iechyd y geg, ond hoffai'r Pwyllgor weld y rhaglen hon yn cael ei hymestyn i blant hŷn.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud chwe argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • bod Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar y targedau presennol o ran Unedau Gweithgarwch Deintyddol gan greu system newydd yn hytrach, sy'n fwy priodol ac yn fwy hyblyg i fonitro canlyniadau gan ganolbwyntio ar ofal ataliol ac ansawdd triniaeth;
  • bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr arian a gaiff ei hawlio yn ôl a'i adennill gan fyrddau iechyd yn cael ei ailfuddsoddi mewn gwasanaethau deintyddol, ac yn monitro'r ailfuddsoddiad hwnnw, nes y sefydlir system newydd ar gyfer monitro canlyniadau; a
  • bod Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad i benderfynu a yw'r system recriwtio ar draws y DU yn effeithiol wrth gefnogi strategaeth i gynyddu cyfradd recriwtio pobl sy'n hanu o Gymru a lefelau cadw myfyrwyr yn gyffredinol ar ôl hyfforddiant.

Bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Dechrau Ffres: Ymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru (PDF, 8 MB)