Mae pwysau cynyddol ar weithlu addysgu Cymru yn bygwth gallu ysgolion i recriwtio a chadw staff, yn ôl adroddiad newydd gan y Senedd.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith, er bod athrawon yn parhau i fod yn ymrwymedig iawn i'w dysgwyr, fod llwyth gwaith, heriau ymddygiad a beichiau gweinyddol yn rhoi llawer dan bwysau.
Yn ôl yr ymchwiliad, mae athrawon yn parhau i newid bywydau pobl ifanc bob dydd, ac mae’r effaith maent yn ei chael yn para'n hir ar ôl i blentyn adael yr ystafell ddosbarth.
Er gwaetha’r ymroddiad hwn, clywodd y Pwyllgor fod disgwyliadau cynyddol a blinder gyda diwygio yn ei gwneud hi'n gynyddol anodd i athrawon wneud y gwaith maen nhw'n ei garu.
Dywedodd Buffy Williams AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:
“Mae athrawon yn parhau i wneud mwy na’r disgwyl bob dydd, ond mae’r pwysau maen nhw’n eu hwynebu yn dod yn gynyddol anghynaliadwy. Mae ein hymchwiliad yn ei gwneud yn glir bod llwyth gwaith, heriau ymddygiad a blinder gyda diwygio yn gyrru gormod allan o'r proffesiwn maen nhw'n ei garu.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys ac ymarferol nawr er mwyn lleddfu’r pwysau hyn a helpu i adeiladu gweithlu sy’n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi ac yn gallu ffynnu.”
Argymhellion allweddol
Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ymarferol ar unwaith i leihau'r pwysau ar staff a gwneud y proffesiwn yn fwy deniadol, gan gynnwys:
· Caniatáu amser Cynllunio, Paratoi ac Asesu (CPA) oddi ar y safle
Mae llawer o athrawon yn adrodd bod amser cynllunio heb ymyrraeth yn amhosibl o fewn amgylchedd yr ysgol. Byddai galluogi CPA oddi ar y safle yn rhoi mwy o hyblygrwydd a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i athrawon.
· Cyhoeddi canllawiau ymddygiad cenedlaethol clir
Cafodd heriau ymddygiad eu hamlygu dro ar ôl tro fel un o brif ffactorau straen a llwyth gwaith. Byddai canllawiau cyson ledled Cymru yn helpu athrawon ac arweinwyr ysgolion i reoli'r pwysau hyn.
· Dileu rhwystrau i ymuno â'r proffesiwn
Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â'r rhwystrau y mae athrawon sy'n siarad Cymraeg a'r rhai sydd wedi'u hyfforddi yn Lloegr yn eu hwynebu, ac ailystyried y rheol bresennol i sicrhau bod 50 y cant o radd yn berthnasol, sy'n cyfyngu ar y cyflenwad mewn pynciau sydd â phrinder.
Er gwaethaf yr heriau, mae athrawon yn parhau i fod yn hynod ymroddedig
Pwysleisiodd y Pwyllgor y cryfder, yr angerdd a'r gwydnwch a ddangoswyd gan athrawon ledled Cymru. Roedd tystiolaeth a gyflwynwyd i’r ymchwiliad yn dangos, er gwaethaf pwysau dwys, fod staff yn ‘parhau i wneud mwy na’r disgwyl dros eu dysgwyr’.
Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod addysgu yn parhau i fod yn broffesiwn gwerth chweil ac effeithiol, wedi'i wreiddio mewn perthnasoedd sy'n llunio pobl ifanc ymhell ar ôl iddynt adael yr ystafell ddosbarth.
Cyfle ar gyfer newid
Gyda Llywodraeth Cymru yn datblygu ei Chynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg newydd, mae'r Pwyllgor yn dweud mai nawr yw'r amser i fynd i'r afael â heriau hirdymor ac adeiladu gweithlu sy'n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi ac yn gallu darparu'r addysg o ansawdd uchel y mae pob dysgwr yn ei haeddu.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma: Adroddiad