Pwyllgor yr Economi yn galw ar Lywodraeth Cymru i estyn gwaharddiad Lloegr ar 'felinau traethawd' i Gymru

Cyhoeddwyd 18/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/10/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Economi’r Senedd wedi ysgrifennu at Jeremy Miles AS, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, yn galw ar Weinidogion Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i estyn y gwaharddiad arfaethedig ar felinau traethawd yn Lloegr fel ei fod yn cynnwys Cymru hefyd.

Dywedodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y canlynol:

“Yn ogystal â hwyluso llên-ladrad, mae melinau traethodau, yn aml, yn camfanteisio ar fyfyrwyr agored i niwed a fyddai’n cael eu cefnogi’n well pe byddent yn ceisio cymorth gan eu prifysgol.

“Rydym yn glir bod yn rhaid gwahardd melinau traethawd ac y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau yr ymdrinnir â’r mater ar draws y DU – ni fydd dull Cymru yn unig yn gweithio.”

Dywedodd Carwyn Jones, cyn-Brif Weinidog, yn 2018 ei fod yn credu bod melinau traethawd yn fater i brifysgolion fynd i’r afael ag ef yn y lle cyntaf ond ei fod yn agored i ddeddfwriaeth ledled y DU i wahardd melinau traethawd gan nad oedd yn credu y byddai deddfwriaeth Cymru yn unig yn gweithio.

Heddiw (18/10/2021) mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu at Jeremy Miles AS, y Gweinidog Addysg, yn amlinellu ei farn am y mater.