Angen gweithredu brys i leihau risg tân mewn adeiladau uchel iawn yng Nghymru

Cyhoeddwyd 16/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/11/2018

Mae angen gweithredu brys, gan gynnwys cyflwyno cyfraith newydd, er mwyn lleihau'r risg o danau mewn adeiladau preswyl uchel iawn yng Nghymru, yn ôl Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Tower block


Mae'r Pwyllgor am weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth, a hynny ar frys, a allai osod ofynion sylfaenol ar aseswyr risg tân a dod â drysau blaen fflatiau o fewn cyfrifoldeb rheoleiddio y gwasanaethau tân ac achub.


Yn dilyn tân Grenfell yn Llundain y llynedd, daeth i'r amlwg bod drysau yr honnir eu bod yn gwrthsefyll tân am 30 munud heb wneud hynny am hanner yr amser yn ystod profion.


O ran deunyddiau llosgadwy a ddefnyddir mewn adeiladau preswyl, dywedodd datblygwyr eiddo Viridis wrth y Pwyllgor na fyddai rhai deunyddiau sydd ar gael yn y DU yn cael eu caniatáu mewn gwledydd eraill:


“The products that they sold in the UK complied with the regulations here, and can be used in various combinations to achieve the required compliance, which is what's happened with us. But, in isolation, the product just sat on the edge of performance. Whereas in Europe, they just didn't take the risk—they'd say, 'We just don't use that', because then there's no question about workmanship.”


Nodwyd pryderon pellach ynghylch y diffyg safonau sylfaenol sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal asesiadau risg tân. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un gynnal asesiadau o'r fath, heb fawr ddim hyfforddiant, os o gwbl. Mae angen cymwysterau ac achrediadau a gydnabyddir gan y diwydiant ar asesiadau nwy neu drydan tebyg.


Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu ynghylch y gwahaniaethau sy'n digwydd weithiau rhwng cynlluniau adeiladau a'r strwythur adeiledig terfynol. Daeth yn amlwg bod datblygwyr weithiau yn gwneud newidiadau i ddyluniad adeilad er mwyn datrys problemau, ond nad yw'r newidiadau yn cael eu cofnodi ac, os na chânt eu hasesu'n briodol, gallent achosi problemau annisgwyl.


Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a ddywedodd:


“…even though the guys may be entirely competent in doing what they’re doing, they’re doing it in the wrong way through lack of understanding of what was meant to be done, not because they’re incompetent in doing it…..”


Fodd bynnag, clywodd Aelodau’r Cynulliad fod pob adeilad yng Nghymru sydd â chladin alwminiwm, yn debyg i'r hyn yn nhân Grenfell, wedi cael eu nodi.


Dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, “Mae dros blwyddyn wedi mynd heibio ers trychineb ofnadwy Grenfell, ac rydym yn dal i deimlo'r effeithiau ledled y wlad.


“Mae angen i bobl deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi a bod yr adeiladau a'r gosodiadau, yn arbennig mewn tyrau o fflatiau, o'r safon uchaf.


“Mae'r Pwyllgor am weld camau brys pellach gan Lywodraeth Cymru ac yn credu y dylid cyflwyno deddfwriaeth cyn gynted â phosibl a fydd yn tynhau safonau ynghylch mesurau diogelwch pwysig fel drysau tân a gofynion sylfaenol ar gyfer cynnal asesiadau risg tân.


“Cawsom ein synnu hefyd gan y gwahaniaethau amlwg rhwng adeiladau ar bapur a'r hyn sy'n cael ei adeiladu mewn gwirionedd, a byddem yn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o gynnwys y gwasanaethau tân ac achub llawer cynt yn y broses o adeiladu adeiladau uchel iawn er mwyn osgoi problemau annisgwyl.”


Mae'r Pwyllgor yn gwneud 14 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth newydd i ddisodli Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn nhymor presennol y Cynulliad. Credwn y dylid blaenoriaethu hyn fel rhan o'r map y mae'r Grŵp Arbenigol ar Ddiogelwch Adeiladau yn ei baratoi. Dylai'r ddeddfwriaeth newydd gynnwys:
    • i) Safonau ar gyfer pobl sy'n cynnal asesiadau risgiau tân;
    • ii) Gofyniad i gynnal asesiadau risgiau tân yn flynyddol man lleiaf ar gyfer adeiladau preswyl uchel iawn;
    • iii) Eglurhad bod drysau tân sy'n ddrysau ffrynt fflatiau yn cael eu hystyried yn rhan o'r ardaloedd cymunol ac felly'n cael eu cwmpasu gan y ddeddfwriaeth sy'n disodli Gorchymyn Diogelwch Tân 2005.
  • Bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ymarferoldeb ehangu'r defnydd o arolygon manwl lefel pedwar ar gyfer yr holl adeiladau preswyl uchel iawn. Dylai hyn gynnwys yr effaith ar gapasiti'r gwasanaethau tân ac achub, y sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen a chodi unrhyw gyfyngiadau deddfwriaethol; a,
  • Bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellir diwygio'r broses gynllunio a rheoleiddio adeiladu i sicrhau bod y Gwasanaethau Tân ac Achub yn cael eu cynnwys yn llawer cynharach yn y broses er mwyn gallu defnyddio eu harbenigedd ar ddiogelwch tân i sicrhau bod adeiladau preswyl uchel iawn yn gallu gwrthsefyll tân yn ddigonol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr adroddiad nawr.

Adroddiad llawn: Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn (PDF, 732kb)