Angen mwy o fanylion ac eglurder yng nghyllideb Comisiwn y Cynulliad

Cyhoeddwyd 19/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/10/2016

​Mae angen mwy o fanylion ac eglurder yng nghyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad.

Y Comisiwn yw'r corff corfforaethol sy'n gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau, fel clercio a chyngor cyfreithiol, yn cael eu darparu ar gyfer Aelodau'r Cynulliad.

Yn benodol, mae'r Pwyllgor Cyllid yn awyddus i wybod beth sy'n digwydd i'r arian dros ben o'r gyllideb a neilltuwyd ar gyfer treuliau Aelodau'r Cynulliad a chostau staff.

Gyda rhai pwerau trethiant wedi'u datganoli o dan Ddeddf Cymru 2014, ac wrth ddisgwyl i ragor o bwerau gael eu rhoi i'r Cynulliad o dan Fil Cymru sy'n cael ei ystyried gan Senedd y DU ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod angen rhagor o staff i wneud y gwaith sy'n gysylltiedig â'r pwerau ychwanegol. Ond mae Aelodau wedi gofyn am ddadansoddiad manwl yn nodi ym mha feysydd y defnyddir y staff newydd.

"Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod y newidiadau cyfansoddiadol yng Nghymru a'r pwerau sy'n cael eu datganoli yn golygu bod angen adnoddau ychwanegol ar Gomisiwn y Cynulliad i ateb yr heriau newydd hyn yn effeithiol.

"Ond rydym yn awyddus i weld rhagor o fanylion o ran sut mae'r Comisiwn yn bwriadu defnyddio'r adnodd ychwanegol hwn, gan gynnwys mwy o staff, i ddatblygu a pharhau i wella ei wasanaethau i Aelodau Cynulliad a, thrwy hynny, i bobl Cymru.

"Rydym hefyd am gael mwy o eglurder o ran beth sy'n digwydd i arian nad yw'n cael ei wario fel rhan o benderfyniad y Bwrdd Taliadau, a sut y caiff ei ddefnyddio'n effeithiol i gyflawni amcanion allweddol y Comisiwn."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud pedwar argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Sicrhau tryloywder a chynnig eglurder, argymhellir y dylid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor, yn dilyn yr ymarfer cynllunio capasiti manwl, ynglŷn â sut y defnyddiwyd yr adnoddau a ddyrennir;
  • Dylai Comisiwn y Cynulliad roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn fuan cyn diwedd y flwyddyn ariannol, gan fanylu ar y tanwariant a ddisgwylir o ran yr arian a ryddhawyd i gyllido penderfyniad y Bwrdd Taliadau a sut y mae Comisiwn y Cynulliad yn defnyddio'r tanwariant hwn; ac
  • Nodi'r manylion yng 'Nghyllideb Ddrafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2017-18' ac, yn amodol ar y sylwadau a'r argymhellion yn yr adroddiad hwn, yn cefnogi'r cais cyffredinol am adnoddau yn 2017-18, ac yn argymell bod y Cynulliad yn cefnogi'r gyllideb hon.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid.