Angen "newidiadau sylweddol" i'r Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn ôl Pwyllgor y Cynulliad

Cyhoeddwyd 14/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

Mae Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) ond mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud "newidiadau sylweddol" er mwyn i'r Bil leihau'n effeithiol y cyfraddau trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.

Mae'r Bil, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi'i gynllunio i ddarparu ffocws strategol ar y materion hyn ac i sicrhau cysondeb wrth ddarparu gwasanaethau ataliol, amddiffynnol a chefnogol ledled Cymru.

Wrth gytuno â'r tystion a gyfrannodd at yr ymchwiliad bod y Bil yn angenrheidiol, nododd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ei fod o'r farn y byddai'r Bil yn sicrhau hawl statudol i wasanaethau i bob dioddefwr, dull sy'n unol ag argymhellion rhyngwladol ac a fabwysiadwyd eisoes yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Galwodd y Pwyllgor ar y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnwys darpariaeth yn y Bil ar gyfer addysg briodol o ran oed mewn ysgolion ar berthnasau iach, elfen y mae'n ystyried yn "hanfodol" o ran newid agweddau a chael effaith hirdymor ar y lefelau o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd fod y Bil yn cyfeirio'n benodol at y niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol y mae trais a cham-drin o'r math hwn yn ei achosi i blant, waeth beth fo'u rhyw.

Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer Cynghorydd Gweinidogol.?? Argymhelliad y Pwyllgor yw bod y rôl hon yn annibynnol ar y Llywodraeth gyda chefnogaeth ysgrifenyddiaeth o'r tu allan i'r gwasanaeth sifil, er mwyn monitro'r cynnydd o ran cyflwyno strategaethau lleol a gyda'r pŵer i gynnal ymchwiliadau pan fydd perfformiad yn anfoddhaol.

Roedd cyllid hefyd yn bryder i'r Pwyllgor; mae'n galw ar y Gweinidog i roi ystyriaeth bellach i oblygiadau ariannol y Bil gan y byddai ei roi ar waith yn debygol o gynyddu'r galw am wasanaethau.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol:

"Mae ein hadroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i'r Gweinidog. Rydym o'r farn y dylai'r Bil gyfeirio at "Drais yn Erbyn Menywod" yn hytrach na "Thrais ar Sail Rhywedd" gan y byddai hynny'n adlewyrchu'r modd anghymesur y mae menywod yn cael eu heffeithio gan drais a cham-drin domestig.

Rydym hefyd o'r farn bod addysg yn hanfodol o ran newid agweddau ac felly dylid cynnwys darpariaeth orfodol i ysgolion ddarparu rhaglenni addysg ysgol gyfan sy'n briodol o ran oed ar berthnasau iach."


Adroddiad ar y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (PDF, 305KB)