Angen panel annibynnol i fonitro iechyd sector cyfryngau Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 10/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen panel annibynnol i fonitro iechyd sector cyfryngau Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

10 Mai 2012

Mae angen panel newydd, annibynnol i archwilio pob agwedd ar sector y cyfryngau yng Nghymru ac i roi cyngor ar bolisïau cynaliadwy i ddiogelu ei ddyfodol, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae grwp gorchwyl a gorffen sy’n canolbwyntio ar y rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau, a sefydlwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yn argymell y dylid sefydlu fforwm a fyddai’n edrych ar faterion fel datganoli pwerau dros ddarlledu yng Nghymru a datblygu modelau busnes cynaliadwy a fyddai’n cefnogi cyfryngau print lleol.

Mae’r grwp hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad a fyddai’n mapio sut mae pobl yng Nghymru yn defnyddio’r cyfryngau. Gallai hyn ei helpu i lywio datblygiadau traws-sector ledled Cymru, gan gynnwys y cyfryngau a thechnolegau newydd.

Mae argymhellion eraill yn ymwneud â rhoi rôl i’r Cynulliad wrth fonitro faint o sylw gwleidyddol a roddir gan BBC Cymru, yn enwedig yn sgîl toriadau yn y gyllideb a gyhoeddwyd gan y Gorfforaeth yn ddiweddar. Mae’r grwp hefyd yn nodi’r angen i fonitro cyllid S4C yn agos.


Dywedodd Ken Skates AC, cadeirydd y grwp gorchwyl a gorffen: “Yr hyn sydd wedi dod yn amlwg yn ystod ein hymchwiliad yw bod awydd o hyd am gyfryngau a gwybodaeth yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar Gymru. Fodd bynnag, mae’r ffordd y mae pobl yn cael y wybodaeth honno yn esblygu’n gyflym.

“O ganlyniad, rydym yn credu y dylai corff annibynnol, sy’n cynnwys arbenigwyr sydd â phrofiad ar draws y sector, fod yn gyfrifol am fonitro cyfryngau Cymru a rhoi cyngor ac arweiniad ar sut i’w cynnal.

“Mae ystod a chwmpas ein hargymhellion yn eang ac maent yn adlewyrchu manylder y dystiolaeth a’r sylwadau a gasglwyd gennym yn ystod ein hymchwiliad.

“Er nad yw dyfodol y diwydiant cyfryngau yng Nghymru wedi’i fapio’n glir, yr hyn sy’n sicr yw bod angen i sector cyfryngau cynaliadwy nid yn unig oroesi, ond ffynnu a pharhau i ddwyn sefydliadau fel Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfrif.”

Mae’r adroddiad yn cynnwys 23 o argymhellion, gan gynnwys:

  • dylai Llywodraeth Cymru archwilio pob cyfle i gefnogi radio cymunedol yng Nghymru;

  • dylai Llywodraeth Cymru barhau i fwrw ymlaen gydag argymhellion adolygiad Hargreaves ac adrodd nôl i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gynnydd yn rheolaidd; a

  • dylai Llywodraeth Cymru archwilio’r cyfleoedd i annog arloesi ac i feithrin modelau busnes newydd, gan gynnwys gweithio gyda’r sefydliadau addysg uwch.