Angen rhagor o ganllawiau i gryfhau’r Bil treth trafodiadau tir, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 20/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae angen canllawiau clir i egluro sut y bydd treth newydd yn gweithio, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Y dreth trafodiadau tir fydd yn disodli’r dreth stamp yng Nghymru.

Wrth gytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), mae’rPwyllgor Cyllid wedi argymell y dylai Awdurdod Cyllid Cymru, sef corff newydd sydd wedi’i sefydlu i gasglu trethi datganoledig, weithio’n agos gyda chyrff proffesiynol o’r cychwyn cyntaf i sicrhau ei bod yn eglur sut y bydd y ddwy dreth yn gweithio.

Cafodd y pŵer i gasglu trethi ar drafodiadau tir ei ddatganoli o dan Ddeddf Cymru 2014, a bydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2018.

Daeth Awdurdod Cyllid Cymru ei hun o dan y chwyddwydr, gyda’r Pwyllgor yn ceisio sicrwydd y bydd y corff yn barod i gasglu trethi o’r diwrnod cyntaf ac y bydd ganddo’r adnoddau a’r seilwaith TGCh priodol yn eu lle i weithredu’n effeithiol.

Mae’r Pwyllgor hefyd am gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd y gyfraith newydd hon yn effeithio ar eiddo trawsffiniol. Mynegwyd cryn dipyn o bryder nad oedd map terfynol o eiddo o’r fath ar gael, ac roedd aelodau’r Pwyllgor yn teimlo bod darpariaethau ynghylch penderfynu faint o dreth sy’n ddyledus ac i bwy yn aneglur i’r trethdalwr, ac y gallai hyn achosi dryswch.

Teimla’r Pwyllgor fod angen datrys y mater hwn ar fyrder.

Dywedodd Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Mae angen rhywbeth i gymryd lle’r dreth stamp oherwydd y bydd Cymru’n colli cyfran o’i chyllid drwy’r grant bloc.”

“Er bod y Pwyllgor wedi cytuno y dylai’r Bil hwn fynd yn ei flaen, rydym hefyd am i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau llawer cliriach o ran beth yw’r dreth trafodiadau tir a sut y bydd yn gweithio.

“Rydym am gael sicrwydd y bydd Awdurdod Cyllid Cymru, a fydd yn gyfrifol am gasglu’r trethi a godir, yn barod i gasglu trethi ac i gynnig cyngor o’r cychwyn cyntaf.

“Rydym hefyd yn credu y dylid datrys y mater o eiddo trawsffiniol ar fyrder, oherwydd y clywsom eglurhad dryslyd o’r hyn y byddai’n rhaid i brynwyr eiddo ei dalu ac i bwy.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 18 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Y dylai Awdurdod Cyllid Cymru ymgysylltu â’r grwpiau proffesiynol perthnasol o’r cychwyn cyntaf ynghylch canllawiau i’r Dreth Trafodiadau Tir;
  • Y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gostau amcangyfrifedig cyn unrhyw drafodion yn ystod Cyfnod 2, gan roi sylw penodol i gostau TGCh a chostau sefydlu’r corff; a
  • Bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae’n bwriadu i’r ddeddfwriaeth benderfynu ar gyfrannau sy’n daladwy ar drafodion eiddo trawsffiniol.

Bydd adroddiad y Pwyllgor yn awr yn cael ei drafod yng nghyfarfod llawn y Cynulliad Cenedlaethol, cyn cynnal pleidlais i benderfynu a all y Bil fynd yn ei flaen i gam nesaf y broses ddeddfu.