Angen rhagor o gefnogaeth ar bobl hŷn yn y gweithle yn ôl adroddiad newydd

Cyhoeddwyd 26/11/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen rhagor o gefnogaeth ar bobl hyn yn y gweithle yn ôl adroddiad newydd

26 Tachwedd 2009

Mae angen rhagor o raglenni wedi’u teilwra’n arbennig er mwyn denu pobl hyn yn ôl i weithio, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Cyfle Cyfartal Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Canfu ymchwiliad gan y Pwyllgor fod cyfnodau o ddirwasgiad economaidd yn y gorffennol wedi cael effaith sylweddol ar weithwyr hyn, ac mae ffigurau cychwynnol eisoes yn awgrymu mai dyma sy’n digwydd yn y dirwasgiad presennol.

Er bod tystiolaeth a gyflwynwyd ar gyfer yr adroddiad yn dangos bod amryw o raglenni a pholisïau a allai fod yn helpu pobl hyn i ddod o hyd i waith, nid yw pob un ohonynt yn ystyried yr heriau penodol sy’n eu hwynebu.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’n hanfodol bwysig fod pobl yn cael gweithio cyhyd ag y maent yn dymuno neu angen gwneud hynny.

“Mae galluogi pobl hyn i weithio’n hirach nid yn unig yn fuddiol i’r unigolyn drwy ei alluogi i barhau’n weithgar ac i gadw cysylltiadau cymdeithasol, y mae hefyd yn lleddfu’r pwysau ar y system bensiynau.”

“Mae hefyd yn lleihau’r tlodi ymysg pensiynwyr tra’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i gymdeithas wrth i weithwyr iau gael sgiliau a gwybodaeth gwerthfawr gan gydweithwyr hyn.”

Er bod tystiolaeth anecdotaidd gref o wahaniaethu yn erbyn pobl hyn yn y gweithle, roedd diffyg gwybodaeth yn golygu ei bod yn anodd dod o hyd i ystadegau i gadarnhau’r honiadau.

“Un o ganfyddiadau pwysig eraill yr adroddiad yw diffyg monitro a gwerthuso cadarn ynghylch hyd a lled y gwahaniaethu, ac ynghylch effaith polisïau Llywodraeth Cymru ar bobl hyn,” meddai Aelod Cynulliad Dyffryn Clwyd.

“Felly, un o’n prif argymhellion yw bod Llywodraeth Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â’r prif randdeiliaid, yn cynnwys pobl hyn eu hunain, er mwyn canfod beth yw hyd a lled y gwahaniaethu yn eu herbyn ym myd cyflogaeth.”

Dyma rai o argymhellion eraill yr adroddiad:

  • Bod Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod y broses o ddatblygu’r holl bolisïau a rhaglenni sy’n ymwneud â chyflogaeth yn ystyried yn arbennig yr heriau penodol sy’n wynebu pobl hyn, ac yn annog hynny yn y sectorau cyhoeddus a phreifat hefyd.

  • Bod Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso ei rhaglenni cymorth busnes a chyflogaeth yn rheolaidd mewn perthynas ag oedran, yn ogystal â’r meysydd cydraddoldeb eraill, fel ei bod yn bosibl asesu effaith rhaglenni ar fenywod hyn a phobl hyn anabl, er enghraifft. Er mwyn sicrhau ymatebion hyblyg a phrydlon mewn amser o newid economaidd, rhaid i wybodaeth fod ar gael yn hawdd i alluogi asesiad o’r effaith ar bobl hyn gael ei gynnal.  

  • Bod Llywodraeth Cymru’n annog Llywodraeth y DU i ddileu’r oedran ymddeol gorfodol.

  • Bod Llywodraeth Cymru’n casglu gwybodaeth am oedran yr ymgeiswyr sy’n gwneud cais am swyddi yn y sefydliad, yn ogystal ag oedran yr unigolion a benodir yn y pen draw.