Angen rheoli ffioedd cynnal a chadw ystadau tai

Cyhoeddwyd 22/05/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/05/2025

Mae angen rheoleiddio i atal y baich sydd ar berchnogion tai ledled Cymru oherwydd ffioedd cynnal a chadw annheg ac aneglur a osodir gan gwmnïau preifat sy’n rheoli ystadau tai. 

Mae adroddiad gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd yn taflu goleuni ar broblem newydd, ond problem sy'n tyfu, ac yn annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu mesurau rheoleiddio cryfach i amddiffyn preswylwyr.

Gyda’r llysenw ‘fleecehold’, mae'n ofynnol i breswylwyr ystadau tai newydd dalu ffioedd blynyddol ar gyfer cynnal a chadw ardaloedd a gwasanaethau cymunedol, gan gynnwys parciau, ffyrdd, ymylon ffyrdd, draenio a mannau gwyrdd, ar ben eu taliadau treth gyngor llawn.

Nid yw’r ffioedd, sy'n amrywio o £50 i £500, yn cael eu rheoleiddio a gallant roi baich ariannol afresymol ar breswylwyr. Yn aml, mae diffyg tryloywder, sy’n gadael perchnogion tai heb ddadansoddiad manwl o gostau.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i safoni’r ffordd y mae datblygiadau tai newydd yn cael eu rheoli er mwyn cynnal safonau a disgwyliadau. Dylai hefyd ddatblygu cofrestr i ddangos pwy sy'n gyfrifol am reoli pob ased ar yr ystâd, gan osgoi dryswch a rhoi mwy o bŵer i berchnogion tai i herio gwasanaethau gwael.

Mae hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd ysbrydoliaeth o Ddeddf Ffactorau Eiddo yr Alban ar sut i wella safonau a thryloywder wrth reoli ystadau yma yng Nghymru.

Dywed Carolyn Thomas AS, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd: "Mae'r dystiolaeth a glywyd yn yr ymchwiliad byr hwn yn gwneud yr achos dros reoleiddio cryfach ar gyfer cwmnïau rheoli, er mwyn atal problem gymharol newydd rhag parhau i dyfu. Mae'r diffyg rheoleiddio wedi cael ei ddisgrifio fel "y gorllewin gwyllt", ond mae yna arfer da a drwg yn bodoli, a ffyrdd o wneud y system yn fwy teg.

"Mae perchnogion tai yn haeddu tryloywder a thegwch. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'n gyflym i gyflwyno'r newidiadau angenrheidiol i'r gyfraith ar gyfer perchnogion tai yn y dyfodol, ac i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i ddatrys problemau hirsefydlog i breswylwyr presennol."

Darllen mwy

Darllenwch yr adroddiad

Mwy o wybodaeth am waith y Pwyllgor ar y mater

Dysgwch am Ddeisebau'r Senedd