Angladd Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 23/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/05/2017

Bydd seremoni angladd i ddathlu bywyd y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan yn cael ei chynnal am 11.00 ddydd Mercher 31 Mai yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Cynhelir y seremoni gan yr offeiriad dyneiddiol Lorraine Barrett a gwahoddir y cyhoedd i fod yn bresennol.

Dylai pobl sy’n dymuno dod i’r seremoni angladd yn y Senedd gyrraedd yn gynnar er mwyn mynd drwy’r trefniadau diogelwch, a dylent osgoi dod â bagiau mawr.

Bydd y Senedd ar agor i’r rheini sy’n dod i’r angladd o 9.30 ymlaen. Dim ond hyn a hyn o le sydd yn yr adeilad, ond wedi iddo lenwi bydd pobl yn gallu ymgynnull ar risiau’r Senedd i glywed y seremoni drwy seinyddion.

Bydd y seremoni hefyd yn cael ei darlledu’n fyw ar Senedd TV ac ar sianel YouTube y Cynulliad Cenedlaethol.

Disgwylir i’r seremoni bara 90 munud ond gallai hyn newid.

Oherwydd gemau terfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd, mae mesurau diogelwch ychwanegol ar waith o amgylch y Senedd, a allai achosi oedi o ran traffig a mynediad. Dylai unrhyw sy’n teithio i Gaerdydd fwrw golwg ar y trefniadau diweddaraf ynghylch cau ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Mae lleoedd parcio ar gael ym mae Caerdydd yn Mermaid Quay, Canolfan Red Dragon, maes parcio Stryd Havannah a maes parcio Stryd y Pierhead. Mae gwybodaeth ar gael ymweld â’r Senedd yn adran ‘cynllunio’ch ymweliad’ ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

Wedi i’r Senedd ailagor yn dilyn y seremoni, bydd llyfr coffa yn parhau i fod ar agor i bobl dalu eu teyrngedau eu hunain.

Yn dilyn y seremoni angladd yn y Senedd, bydd gwasanaeth trosglwyddo am 14.00 y diwrnod canlynol, sef dydd Iau 1 Mehefin, yng nghapel y Wenallt, Amlosgfa’r Ddraenen. Eto, mae croeso i bawb.