Cyrraedd yma

Mae'n hawdd dod o hyd i ystâd y Senedd. Gallwch gyrraedd yn y car, ar y trên, mewn bws, neu ar feic.

Cyfeiriad

Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN

+44 (0)300 200 6565

Cyfarwyddiadau

Teithio Llesol

Mae dau leoliad ar yr ystâd ar gyfer parcio beiciau, ger mynedfeydd y Pierhead a Thŷ Hywel.

Mae llwybrau beicio i bob cyfeiriad. Mae gan wefan Cyngor Caerdydd adnoddau i’ch helpu i gynllunio'ch taith.

 

Bws

Mae bws y Baycar Rhif 6 yn gadael Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd, Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Heol Eglwys Fair neu Orsaf Ganolog Caerdydd ac mae'n stopio yn Pierhead Street ac o flaen Canolfan Mileniwm Cymru sydd gerllaw'r Senedd.

Mae bysiau rhif 7 ac 8 yn gadael Heol y Gamlas a Heol y Porth yn ôl eu trefn ac yn stopio ar Pierhead Street, taith fer (oddeutu 200 metr) o'r Senedd, Tŷ Hywel a'r Pierhead.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Baycar [sy'n agor mewn ffenestr porwr newydd]

 

Trên

Mae gwasanaethau’n rhedeg o Orsaf Heol y Frenhines, Caerdydd i Orsaf Bae Caerdydd. Mae’r orsaf ychydig funudau o’r Senedd, Tŷ Hywel ac adeilad y Pierhead.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Traveline [sy'n agor mewn ffenestr porwr newydd]

 

O’r Ffordd

O'r Gorllewin, gadewch yr M4 ar gyffordd 33, dilynwch yr A4232 i gyfeiriad Bae Caerdydd, a dilynwch yr arwyddion i Senedd Cymru, CF99 1SN.

O'r Dwyrain, hadewch yr Mr ar gyffordd 29, dilynwch yr A48 ac yna'r A4232 i Fae Caerdydd a dilynwch yr arwyddion i Senedd Cymru, CF99 1SN.

Parcio i Bobl Anabl

Mae lleoedd parcio ar gael ar gyfer pobl anabl ym maes parcio’r Senedd drwy drefniant ymlaen llaw. Yn achos cyfarfodydd gydag Aelodau a Gweinidogion gallwch drefnu drwy gysylltu â swyddfeydd preifat Aelodau’r Senedd neu drwy gysylltu â’r swyddogion perthnasol yn y Senedd. Er mwyn dod i’r Cyfarfod Llawn, cyfarfodydd pwyllgorau neu ar gyfer ymweliad â’r Senedd a drefnwyd ymlaen llaw, gallwch drefnu lle parcio drwy gysylltu â ni drwy switsfwrdd y Senedd. Mae lift allanol ar gael ar gyfer ymwelwyr sy'n anabl wrth yr ardal parcio i'r anabl tu allan i'r Senedd. 

Fel arfer mae angen rhoi o leiaf 24 awr o rybudd, ynghyd â gwybodaeth am y cerbyd a’r gyrrwr. Rhaid i ymwelwyr ddangos bathodyn parcio i bobl anabl wrth gyrraedd.

 

Parcio Bws

Cysylltwch â ni am fap yn nodi ble y gall bysiau adael ymwelwyr.

 

Tacsi

Mae nifer o gwmnïau'n darparu gwasanaethau tacsi o ganol dinas Caerdydd i Fae Caerdydd. Mae safleoedd tacsis wedi'u lleoli ar draws y ddinas, gan gynnwys y tu allan i orsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Y lleoliad agosaf at ystâd y Senedd yw ar Stryd Biwt ger Cei’r Forforwyn.

 

Parcio Ceir

Y maes parcio agosaf yw’r parc ceir aml-lawr ‘Q-Park’ ar Stryd Pierhead sydd yn daith gerdded fer o’r Senedd. Gellir cael disgownt i archebion parcio ymlaen llaw gan ddefnyddio’r cod 'SEN’. Gallai fod parcio Talu ac Arddangos ar y stryd ar gael yn agos at Ystâd y Senedd ar Harbour Drive neu mae maes parcio Talu ac Arddangos oddi ar Stryd Stuart.

Addas i'r teulu

  • Croesewir bwydo ar y fron a bwydo gyda photeli.
  • Mae toiled Changing Places a chyfleusterau newid babanod ar gael.
  • Mae gan y Senedd ardal chwarae i blant sy’n llawn teganau, adnoddau chwarae synhwyraidd, a map mawr o Gymru. Mae wedi'i leoli'n agos at y Caffi.
  • Mae'r Caffi yn cynnig cynhesu poteli a dŵr i lenwi poteli, ac mae cadeiriau uchel ar gael.
  • Mae dwy ystafell dawel ar gael, gofynnwch i aelod o staff am fynediad i'r rhain neu os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i'ch gwneud yn fwy cyfforddus.
  • Mynnwch gopi o lyfryn Llwybr Darganfod y Senedd am ddim. Wedi'i anelu at blant 5 – 7 oed, mae'r llwybr yn tynnu sylw at bum nodwedd bwysig yn yr adeilad.
  • Rydym wedi datblygu'r dudalen hon i gefnogi ymwelwyr ag awtistiaeth.

Ystyriaethau cyn ymweld

  • peidiwch â dod i’r adeilad os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, neu os cawsoch gyfarwyddiadau i hunan-ynysu, neu os oes gan unrhyw un yn eich cartref symptomau COVID-19; 
  • caniatewch tua 15 munud ar gyfer mynd drwy’r broses ddiogelwch;  
  • efallai y bydd ciw byr y tu allan i'r adeilad cyn mynd i mewn;  
  • dewch â chyn lleied o eiddo â phosibl i’r adeilad. Ni chaniateir cludfwyd na diodydd;  
  • bydd ein caffi, siop, toiledau a'n cyfleuster Changing Places ar agor, ond bydd yr ystafell gotiau ar gau.
  • Wi-Fi ar gael yn rhad ac am ddim.

Ar ôl cyrraedd bydd aelod o’n tîm yn rhoi esboniad byr i chi o'r hyn i'w ddisgwyl yn yr adeilad.