Arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad pwyllgor
Bydd uwch academyddion o Brifysgol Caerdydd yn cyflwyno tystiolaeth yr wythnos hon i ymchwiliad Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad i gyfraniad economaidd addysg uwch.
Y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor yw:
Ystyried natur ymgysylltiad strategol sefydliadau Addysg Uwch gyda busnesau yng Nghymru a thu hwnt a’u heffaith ar eu heconomïau lleol a rhanbarthol
Llwyddiant Sefydliadau Addysg Uwch i gael arian o amrywiaeth o ffynonellau
Edrych i ba raddau y mae addysg mentro wedi’i gorffori mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru
Y cyfraniad y gall Sefydliadau Addysg Uwch ei wneud i’r agenda sgiliau
Cyfraniadau ehangach prifysgolion i’w lleoliadau
Bydd Dr David Grant, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Ken Woodhouse, y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau, yr Athro Max Munday o Uned Ymchwil Economi Cymru, Coleg Buses Caerdydd, Geraint Jones, y Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Masnachol, oll yn cyflwyno tystiolaeth yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Mercher, Ionawr 23 am 9am yn Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd, Bae Caerdydd.
Mwy o wybodaeth am y pwyllgor.