Arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad pwyllgor

Cyhoeddwyd 21/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad pwyllgor

Bydd uwch academyddion o Brifysgol Caerdydd yn cyflwyno tystiolaeth yr wythnos hon i ymchwiliad Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad i gyfraniad economaidd addysg uwch.                                                                                              

Y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor yw:

  • Ystyried natur ymgysylltiad strategol sefydliadau Addysg Uwch gyda busnesau yng Nghymru a thu hwnt a’u heffaith ar eu heconomïau lleol a rhanbarthol                          

  • Llwyddiant Sefydliadau Addysg Uwch i gael arian o amrywiaeth o ffynonellau

  • Edrych i ba raddau y mae addysg mentro wedi’i gorffori mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

  • Y cyfraniad y gall Sefydliadau Addysg Uwch ei wneud i’r agenda sgiliau                        

  • Cyfraniadau ehangach prifysgolion i’w lleoliadau    

Bydd Dr David Grant, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Ken Woodhouse, y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau, yr Athro Max Munday o Uned Ymchwil Economi Cymru, Coleg Buses Caerdydd, Geraint Jones, y Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Masnachol, oll yn cyflwyno tystiolaeth yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Mercher, Ionawr 23 am 9am yn Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd, Bae Caerdydd.

Mwy o wybodaeth am y pwyllgor.