Ardaloedd Menter heb ennill eu plwyf hyd yma, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 16/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Chwe blynedd ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi, nid oes digon o dystiolaeth ar gael i werthuso ardaloedd menter yng Nghymru yn llawn, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau o'r farn bod y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod ei ymchwiliad i ardaloedd menter yng Nghymru yn rhoi darlun cymysg o'r modd y mae'r wyth ardal a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn perfformio. O ganlyniad, casgliad y Pwyllgor yw ei bod yn anodd ffurfio barn gyffredinol o ran effeithiolrwydd y polisi yn ei gyfanrwydd, er gwaetha'r ffaith bod dros £220 miliwn wedi'i wario ar yr ardaloedd hyn rhwng 2012 a 2017.

O ganlyniad i'w ymchwiliad, mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhagor o wybodaeth am yr ardaloedd menter, ac i ailgyflwyno'r drefn o gyhoeddi adroddiadau blynyddol yn cynnwys data clir ynghylch y cymorth a ddarperir i bob ardal a manylion ynghylch y gefnogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol a ddarperir iddynt. Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylid darparu gwybodaeth ynghylch y blaenoriaethau a'r targedau blynyddol a bennir mewn perthynas â pherfformiad pob ardal.

Mae'r Pwyllgor o'r farn y byddai hyn yn arwain at waith craffu gwell ynghylch perfformiad pob ardal yng Nghymru.

Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau:

"Mae'r Pwyllgor wedi dod i'r casgliad nad yw'r cysyniad ardal fenter, ar y cyfan, wedi ennill ei blwyf hyd yma yng Nghymru, er bod Llywodraeth Cymru yn gwario dros £200 miliwn ar yr ardaloedd hyn. Yn sgil y diffyg tystiolaeth sydd ar gael, mae'n anodd inni ddadansoddi'n llawn eu cyfraniad at economi Cymru.

"Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y gwaith y mae byrddau'r ardaloedd menter yn ei wneud, yn ogystal ag arbenigedd ac ymroddiad y rhai sy'n gysylltiedig â chyflawni eu gwaith yn lleol. Credwn hefyd fod teilyngdod mewn gweithredu dull rhanbarthol o sbarduno datblygu economaidd, a bod canolbwyntio ar ardaloedd difreintiedig yn beth da.

"Fodd bynnag, bydd angen amcanion clir a realistig ar gyfer unrhyw ddulliau rhanbarthol o sbarduno datblygu economaidd yn y dyfodol, ynghyd â data monitro sy'n fanwl, yn dryloyw ac yn briodol. Mae'r ardaloedd menter wedi bod yn gyfres o arbrofion sy'n seiliedig ar leoedd penodol, ac rydym o'r farn y bydd angen sicrhau eu bod yn destun gwaith craffu pellach dros y blynyddoedd i ddod."

Yn ogystal, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth sy'n awgrymu mai'r ardaloedd hynny sydd wedi cyflawni nodau datganedig Llywodraeth Cymru yw'r rhai a oedd eisoes yn y sefyllfa orau i wneud hynny, a bod y cymhellion a ddarparwyd iddynt ond wedi chwarae rhan fach yn eu llwyddiant. Roedd yr ardaloedd hynny yr oedd ganddynt fan cychwyn gwahanol o ran yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu yn credu eu bod ond wedi cael ychydig fudd o'r cymhellion a oedd ar gael iddynt. Nid yw'r ardaloedd hynny eto wedi cyflawni nodau datganedig Llywodraeth Cymru.

Gwnaeth y Pwyllgor gyfanswm o 10 o argymhellion, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru edrych yn strategol ar yr eiddo masnachol a'r unedau diwydiannol sydd ar gael a gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau bod arian ar gael ar gyfer ardaloedd lle mae angen datblygu unedau addas;

  • Dylai Llywodraeth Cymru ailystyried ei bwriad arfaethedig i uno byrddau Ynys Môn ac Eryri;

  • Dylai Llywodraeth Cymru osod cyfeiriad clir o ran yr hyn y mae'n disgwyl i ardal fenter Port Talbot ei gyflawni, ac amserlen glir i'w wneud, fel y gellir dod â'r Bwrdd i ben pan fydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Ardaloedd Menter: Mynd ymhell? (PDF, 755 KB)