Arddangosfa flynyddol o luniau Aelodau’r Cynulliad yn agor
Bydd yr arddangosfa flynyddol o ffotograffau wedi eu cymryd gan Aelodau’r Cynulliad yn cael ei hagor gan y Dirprwy Lywydd heddiw (1 Gorffennaf).
Mae 18 Aelod wedi cyflwyno ffotograffau, a fydd yn cael eu harddangos yn Oriel y Senedd rhwng 1 a 10 Gorffennaf.
“Mae’r arddangosfa hon wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol, ac mae’n arddangos gwaith rhai o’r ffotograffwyr talentog sydd gennym ymysg ein Haelodau,” meddai’r Dirprwy Lywydd.
“Mae pob math o luniau, o fywyd gwyllt i bensaernïaeth, ac o bob cornel o Gymru.
“Mae hefyd yn ychydig o hwyl ar ddiwedd y tymor sydd yn boblogaidd iawn ymysg y rhai sy’n ymweld â’r Senedd.”