Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn adolygu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario ei chyllideb o £17 biliwn y flwyddyn ariannol nesaf ar bethau fel gwella ysgolion, ysbytai, ffyrdd a'r amgylchedd yng Nghymru.
Mae aelodau'r Pwyllgor yn cydnabod bod cylch y gyllideb ddrafft wedi'i gyflawni’r tro hwn mewn amgylchiadau “eithriadol”, o ystyried yr ansicrwydd cyffredinol ynghylch Etholiad Cyffredinol y DU a Brexit, sydd wedi effeithio ar allu Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i gynllunio.
Ar y cyfan, mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi codi 2.3% mewn termau real, neu £593 miliwn ers y llynedd, ac mae’r arian ychwanegol wedi'i ddosbarthu ar draws meysydd datganoledig.
Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn pryderu am y dystiolaeth a glywodd na fydd modd cynnal unrhyw gynnydd yng nghyllidebau'r dyfodol heb fenthyca mwy neu gynyddu trethiant.
Yn ôl y Pwyllgor Cyllid, nid yw’r gyllideb ddrafft ar gyfer 2020/21 yn adlewyrchu’r ‘argyfwng hinsawdd’ a gafodd ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru y llynedd.
Ers i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ddatgan argyfwng hinsawdd yng Nghymru ar 29 Ebrill 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad cyfalaf o £140 miliwn i hybu datgarboneiddio.
Ond nid yw'r Pwyllgor yn argyhoeddedig bod gan y Llywodraeth ddealltwriaeth glir o'r effaith y bydd ei phenderfyniadau yn ei chael ar allyriadau carbon neu'r hinsawdd.
Roedd aelodau'r Pwyllgor yn siomedig bod Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn dderbyniol datgan argyfwng hinsawdd ac yna cyhoeddi cyllideb nad yw'n cyfeirio at effaith ei gwariant ar garbon.
“Wrth ddatgan ‘argyfwng hinsawdd’, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau tuag at fynd i’r afael â phroblem y newid yn yr hinsawdd a’i effaith ar y byd,” meddai Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
“Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor hwn yn teimlo y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi mynd gam ymhellach i gydnabod yr effeithiau y mae ei phenderfyniadau a’i blaenoriaethau ei hun yn eu cael ar ein hinsawdd.”
Ymhlith y pryderon eraill a godwyd am y gyllideb gan y Pwyllgor Cyllid roedd effaith Brexit ar Gymru, yn enwedig parhad cyllid a arferai gael ei roi gan yr Undeb Ewropeaidd ac, yn benodol, taliadau uniongyrchol i ffermwyr a busnesau eraill yn y sector pysgodfeydd ac amaeth. Mae'r Pwyllgor yn awyddus i gael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddarparu.
Mae'r Pwyllgor yn falch bod tlodi yn un o flaenoriaethau'r gyllideb ond mae o’r farn nad yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yn ddigon clir. Mae'n dweud bod angen amcanion cliriach ar y strategaeth ac y dylai egluro sut y bydd y gyllideb yn sbarduno gwelliant dros y tymor hir, yn enwedig wrth fynd i'r afael â’r hyn sydd wrth wraidd tlodi.
Mae'r Pwyllgor yn credu'n gryf bod angen mynd ati fwy fyth i leihau tlodi yng Nghymru. Mae gormod o bobl mewn swyddi sgiliau isel neu’n cael cyflogau isel. Bydd gwella sgiliau’r gweithlu a chynyddu cyflogaeth o fudd i economi Cymru ni waeth beth fydd canlyniad Brexit.
Yn ôl Llyr Gruffydd AC:
“Rydyn ni mewn cyfnod heb ei debyg wrth i ni agosáu at Brexit ac os rhowch chi’r risgiau a’r cyfleoedd o’r neilltu, yr hyn y mae pobl yn chwilio amdano, yn anad dim, yw eglurder a sicrwydd.
“Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Lywodraeth y DU ddisodli cronfeydd Strwythurol yr UE. Ond dydy amaethyddiaeth ddim yn rhan o’r cronfeydd hynny, felly hoffai'r Pwyllgor gael sicrwydd y bydd y taliadau ffermio yn parhau fel arfer nes bod strwythur cyllido newydd yn cael ei gyflwyno.
“Ddylai neb fod yn waeth eu byd oherwydd y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.”
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 27 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
- Y dylai Cyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol gynnwys hyblygrwydd a gwaith cynllunio senarios penodol i ymateb i siociau neu ansicrwydd economaidd;
- Bod Llywodraeth Cymru yn darparu cadarnhad ei bod wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael i'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn o'r Senedd; a
- Bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o fanylion yn y blynyddoedd i ddod ar sut y bydd dyraniadau a rhaglenni yn symud ymlaen tuag at yr ymrwymiad i fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2050 a beth fydd yr amserlen ar gyfer gwneud hyn.
Trafodir cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a chanfyddiadau'r Pwyllgor yn ystod cyfarfod llawn o'r Cynulliad Cenedlaethol yn y Senedd ddydd Mawrth 4 Chwefror 2020.
Bydd pump o Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi adroddiadau manylach ar 31 Ionawr.
Mae gwasanaeth ymchwil Comisiwn y Cynulliad wedi creu diagram rhyngweithiol i helpu i egluro cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gan gynnwys y newidiadau ers rhagamcanion y flwyddyn flaenorol.
Darllenwr yr adroddiad - Gwaith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-2021