Mae arian sylweddol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol wedi’i golli oherwydd diffygion yng nghyfrifyddu Llywodraeth Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
Mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd (PCCGG) yn codi nifer o faterion yn ymwneud â chyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/2021
- £155.5 miliwn o arian i Gymru wedi ei golli oherwydd rheolaeth wael ar gyfrifon
- Pryderon difrifol ynghylch cadw cofnodion yn ymwneud â taliad o £80,000 a wnaed i'r cyn-Ysgrifennydd Parhaol
- Mae cyflog yr Ysgrifennydd Parhaol presennol yn fwy na'r swm a hysbysebwyd
- Pryderon am lefel y twyll a gwallau yn y cynllun grantiau busnes COVID-19
Llywodraeth Cymru yn tanwario £155.5 miliwn
Mae adroddiad heddiw yn nodi siom y Pwyllgor fod arian sylweddol wedi ei golli i Gymru o ganlyniad i danwariant Llywodraeth Cymru yn 2020-21.
Mae'r £155.5 miliwn yn cynrychioli cyllid sylweddol y gellid bod wedi ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru – a hynny ar adeg pan fo pwysau difrifol ar gyllid cyhoeddus.
Mae'r ffigwr yn deillio o'r gwahaniaeth rhwng balans Cronfa Wrth Gefn Cymru ar 1 Ebrill 2021 – £505.5 miliwn – a therfyn Cronfa Wrth Gefn Cymru, sef £350 miliwn. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi gwrthod ei gais i ddwyn ymlaen swm a oedd yn fwy na’r terfyn ar Gronfa Wrth Gefn Cymru.
Mae'n cyfateb i tua dwy ran o dair o'r refeniw a godwyd o roi 1c ar bob un o gyfraddau treth incwm Cymru.
Roedd y Pwyllgor yn ei chael hi'n anodd deall pam fod Llywodraeth Cymru wedi aros cyhyd i gael gwybod nad oedd modd iddi wneud fel y dymunai gyda'r tanwariant, a pham y cafodd cais o'r fath ei wneud yn ôl-weithredol. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi tybio, ar sail penderfyniadau blaenorol Trysorlys EF, y byddai'n cael hyblygrwydd i ddefnyddio'r cyllid.
Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch a allai gwneud cais yn gynt fod wedi galluogi'r arian i gael ei ddefnyddio. Nid ydym yn disgwyl gweld ailadrodd colli arian o'r fath i Gymru eto a dylid gwneud unrhyw geisiadau yn gynt yn y dyfodol.
Dywed Mark Isherwood AS, Cadeirydd y PCCGG:
“Mae ein hadroddiad yn denu sylw at nifer o faterion difrifol o fewn Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2020-21. Nid yn unig yr oedd oedi sylweddol cyn eu gosod, ac roeddent wedi’u llofnodi naw mis yn ddiweddarach na'r amserlen a gytunwyd yn wreiddiol, ond rhoddwyd amod ar y Cyfrifon hefyd gan yr Archwilydd Cyffredinol ar dri mater gwahanol.
“Mae’n bryder fod cyllid sylweddol i Gymru wedi ei golli o ganlyniad i danwariant Llywodraeth Cymru yn 2020-21. Fe allai’r arian fod wedi’i ddefnyddio i gyllido gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac mae’n rhwystredig iawn, yn enwedig nawr, pan fo cymaint o bwysau ar gyllid cyhoeddus.
“Mae’n un o lawer o enghreifftiau lle mae cadw cofnodion gwael a chamreoli cyfrifon cyhoeddus wedi costio’n ddrud i bobol Cymru.”
Y cyn-Ysgrifennydd Parhaol a’r Ysgrifennydd Parhaol presennol
Mae taliad a wnaed i’r cyn-Ysgrifennydd Parhaol, a’r trefniadau i wneud â chyflog yr Ysgrifennydd Parhaol presennol, yn codi nifer o faterion ynghylch y ffordd y caiff penderfyniadau eu dogfennu a’r broses o gadw cofnodion gan Lywodraeth Cymru.
Ar ei hymadawiad o’r rôl, gwnaed taliad o £80,519 i gyn-Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru. Roedd hyn yn cynnwys taliad o £31,843 yn lle cyfnod o rybudd, £9,553 am absenoldeb blynyddol heb ei gymryd a thaliad allgontractiol o £39,123.
Mae’r Pwyllgor yn pryderu bod trefniadau diffygiol ar gyfer cadw cofnodion ynghylch sut y cafodd penderfyniadau eu gwneud wedi arwain at ddiffyg eglurder a chyfleoedd annigonol am waith craffu gan y Pwyllgor hwn, ac na roddodd Llywodraeth Cymru dystiolaeth gydoesol ddigonol i’r Archwilydd Cyffredinol i gadarnhau’r newid yn nhrefniadau gwaith y cyn-Ysgrifennydd Parhaol ac i gyfiawnhau’r taliad a wnaed ar ei hymadawiad.
Mae adroddiad heddiw hefyd yn manylu ar bryderon am y broses o benodi’r Ysgrifennydd Parhaol presennol. Ym mis Medi 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru benodiad Dr Andrew Goodall, a oedd wedi bod ar secondiad i Lywodraeth Cymru o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers 2014.
Roedd y swydd wedi cael ei hysbysebu gyda chyflog rhwng £162,500 a £180,000, ond cadarnhaodd Dr Goodall ar ôl ei benodiad ei fod yn parhau ar fframwaith cyflog prif weithredwr y GIG – sy'n golygu bod ei gyflog presennol yn fwy na'r cyflog a gafodd ei hysbysebu.
Mae hyn, yn ôl adroddiad y Pwyllgor, yn codi cwestiwn ynghylch a allai Llywodraeth Cymru fod wedi denu ymgeiswyr gwahanol petai'r swydd wedi cael ei hysbysebu ar raddfa gyflog uwch.
Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei harferion ar gyfer adrodd a chadw cofnodion i sicrhau bod penderfyniadau mewnol ynghylch rôl yr Ysgrifennydd Parhaol, ynghyd â rolau eraill ar lefel Cyfarwyddwr neu uwch, yn cael eu dogfennu’n glir.
Nod yr 17 o argymhellion sydd yn yr adroddiad yw taclo’r prosesau gwael o ran cadw cofnodion a ddaeth i’r amlwg yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor.