Cost Covid-19 yng Nghymru

Cyhoeddwyd 18/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae gan Lywodraeth Cymru dros £2 biliwn yn ychwanegol i'w gwario, ond ni wyddys i sicrwydd faint mwy y bydd ei angen i geisio lleihau effeithiau'r coronafeirws yng Nghymru.

Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi bod yn trafod cyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru, sy'n ystyried effaith y pandemig.

Mae cyllidebau atodol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am wariant llywodraeth ers dechrau'r flwyddyn ariannol newydd ac maent yn dangos unrhyw newidiadau yn yr arian a rennir ar draws gwahanol adrannau i adlewyrchu blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg.

Daw'r rhan fwyaf o'r arian i Lywodraeth Cymru yn sgil cyhoeddiadau cyllid gan Lywodraeth y DU; mae Cymru yn cael cyfran o'r cyllid hwn yn awtomatig o dan drefn cyllido ddatganoledig.

Mae'r Pwyllgor yn pryderu nad yw'r sianeli cyfathrebu rhwng y ddwy lywodraeth mor glir ag y gallent fod ac mae am weld gwell cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i sicrhau bod cyhoeddiadau polisi mawr yn cael eu cyfathrebu'n amserol a bod eglurder ynghylch opsiynau cyllido.

Mae'r Pwyllgor hefyd am gael mwy o wybodaeth am gynllun adfer Llywodraeth Cymru ar ôl y coronafeirws, gan gynnwys rhoi cychwyn i'r economi ac ailagor y stryd fawr yng Nghymru. Nid oes llawer o wybodaeth ar hyn o bryd am faint o arian ychwanegol bydd ei angen nac ychwaith am faint sy'n cael ei roi, na faint y dylid ei roi, o'r neilltu i ymdopi ag ail don bosibl o'r feirws.

Er i gyllid ychwanegol gael ei roi i gefnogi gwasanaethau hanfodol, mae meysydd eraill wedi gweld gostyngiadau yn eu cyllid wrth i gyllidebau gael eu hailddyrannu. Mae'r rhain yn cynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae cyfanswm gwerth £256.2 miliwn wedi cael ei ailddyrannu o adrannau ar gyfer COVID, ac o'r swm hwnnw, gohiriwyd £46.6 miliwn yn y gyllideb addysg, sy'n effeithio ar CCAUC, ac mae £24 miliwn ar gyfer yr amgylchedd, ynni a materion gwledig hefyd yn cael ei ail-flaenoriaethu, sy'n effeithio ar Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod penderfyniadau anodd wedi cael eu gwneud ac y bydd rhai sefydliadau sector cyhoeddus yn gweld gostyngiadau yn eu cyllid. Ond mae'r Aelodau am gael sicrwydd bod trafodaethau yn cael eu cynnal â CCAUC a Chyfoeth Naturiol Cymru ynghylch yr effaith y bydd colli cyllid yn ei chael arnynt.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

"Ychydig o lywodraethau sydd wedi wynebu dewisiadau mor anodd neu sydd wedi gorfod ymateb gyda'r fath gyflymder a phendantrwydd oherwydd gofynion delio â phandemig y coronafeirws.

"Yn hynny o beth, mae Llywodraeth Cymru yn haeddu clod am y camau cyflym y mae wedi'u cymryd.

"Mae symiau'r arian dan sylw i gefnogi ein gwasanaethau iechyd, yr economi ac awdurdodau lleol yn enfawr ac, ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod a yw hynny'n ddigon.

"Mae'n amlwg nad yw'r sianeli cyfathrebu rhwng Llundain a Chymru mor agored ag y gallent fod a bod ymdrechion i fynd i'r afael â'r feirws hwn mewn ffordd gydlynol yn cael eu llesteirio.

"Nid yw'n glir beth mae gweinidogion yn ei wneud i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio, sut y cychwynnir yr economi eto, na hyd yn oed pa gynlluniau wrth gefn fyddai ar gael pe bai ail don.

"Mae'r rhain yn benderfyniadau pwysig a chredwn y dylai Llywodraeth Cymru ein hysbysu am ei chynlluniau."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 17 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn cyflymu gwaith i gefnogi economïau lleol. Bydd newidiadau mewn arferion manwerthu yn effeithio ar ganol trefi yn y tymor hwy, ac mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddeall sut y bydd y gwaith hwn yn cael ei ailffocysu o ystyried yr amgylchiadau presennol;
  • Byddai'r Pwyllgor yn croesawu manylion y trafodaethau a gynhaliwyd â sefydliadau'r sector cyhoeddus sy'n wynebu gostyngiadau sylweddol mewn incwm eleni, ac mae'n argymell bod y Pwyllgor yn cael manylion am sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r sefydliadau hyn i liniaru effaith y gostyngiadau; a
  • Bod Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth am y costau ychwanegol gwirioneddol a rhagamcanol ar gyfer byrddau iechyd lleol o ganlyniad i fesurau COVID-19 a'r dyraniadau i'w gwneud iddynt o ganlyniad i'r cynnydd mewn cyllid a adlewyrchir yn y Gyllideb Atodol.

Bydd canfyddiadau'r Pwyllgor yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.