Arolwg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 70 y cant o ddinasyddion Cymru o blaid datganoli

Cyhoeddwyd 22/09/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Arolwg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 70 y cant o ddinasyddion Cymru o blaid datganoli

Mewn un o’r arolygon barn mwyaf eang i gael ei gynnal er mwyn canfod dealltwriaeth y cyhoedd o natur wleidyddol Cymru, roedd 70 y cant o’r bobl o blaid datganoli llawn neu rannol.

Comisiynwyd yr arolwg gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chafodd ei gynnal gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar y cyd â chwmni ymchwil a marchnata GfKNOP. Y nod oedd canfod dealltwriaeth y cyhoedd o’r Cynulliad Cenedlaethol a’i waith, a holwyd dros 2,500 o bobl ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2008.

Pan ofynnwyd iddynt, roedd mwyafrif y bobl (39 y cant) am weld Cymru’n aros yn rhan o’r DU ond gyda’i Senedd ei hun a honno â phwerau deddfwriaethol a threthu llawn. Roedd 31 y cant o’r bobl am i’r Cynulliad gadw ei bwerau presennol, a 10 y cant am i Gymru fod yn genedl gwbl annibynnol.

O’r bobl eraill a ymatebodd, roedd 15 y cant am ddychwelyd i’r statws cyn datganoli, tra dywedodd 6 y cant nad oedd ganddynt farn.

Roedd yr arolwg yn awgrymu bod y farn hon am statws cyfansoddiadol Cymru yn seiliedig ar ddealltwriaeth wleidyddol gadarn ymhlith pobl y wlad. Pan ofynnwyd iddynt ddisgrifio pwerau deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dywedodd 77 y cant yn gywir bod ganddo’r pwerau i wneud cyfreithiau mewn amryw o feysydd a bod modd ehangu’r rhain os bydd senedd y DU yn cytuno.

Dangosodd yr arolwg hefyd fod gan nifer cynyddol o bobl drwy Gymru farn a dealltwriaeth debyg. Roedd arolygon blaenorol wedi dangos bod y gefnogaeth yn amrywio mewn gwahanol ardaloedd. Fodd bynnag, mae’r arolwg hwn yn dangos bod mwy o gysondeb yn nheimladau pobl tuag at ddatganoli, a bod hyn yn mynd ochr yn ochr â chysondeb yn nealltwriaeth pobl. (Roedd rhywfaint o wahaniaeth rhanbarthol yn nealltwriaeth pobl Cymru ynghylch pwerau deddfu Cynulliad Cymru, gyda 72 y cant o bobl y gogledd yn rhoi’r ateb cywir, o gymharu â 83 y cant yn y de-ddwyrain.)

Fodd bynnag, roedd yr arolwg hefyd yn awgrymu bod nifer o ddinasyddion Cymru yn ansicr ynghylch y gwahaniaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cyfaddefodd 52 y cant mai dim ond ychydig a oeddent yn ei wybod am Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: “Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn hynod o galonogol, ac wrth i ddatganoli yng Nghymru gyrraedd ei ddegfed pen-blwydd, mae’n dangos ein bod fel cenedl yn dal i ddatblygu ymdeimlad o’n hunaniaeth wleidyddol unigryw.

“Nod Cynulliad Cenedlaethol Cymru erioed fu annog pobl i gyfrannu i’r broses ddemocrataidd, ac mae’r ddealltwriaeth gref o’r trefniadau datganoledig yn dangos ein bod yn llwyddo yn y nod hwnnw.

“Fodd bynnag, mae llawer o waith o hyd i’w wneud. Mae angen rhoi sylw i’r diffyg dealltwriaeth ynghylch gwahanol waith Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a byddwn yn dadlau mai dryswch dros yr enwau sy’n gyfrifol am lawer o hyn.

“Rwy’n annog Prif Weinidog Cymru yn gryf i ailfrandio Llywodraeth Cynulliad Cymru fel Llywodraeth Cymru, a rhoi diwedd ar y dryswch diangen sy’n gwneud dim i helpu’r drafodaeth sy’n esblygu’n barhaol ar ddemocratiaeth yng Nghymru.”

Meddai’r Athro Roger Scully o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Cawsom ein comisiynu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal un o’r arolygon mwyaf trylwyr o’i fath yng Nghymru, ac mae’r canlyniadau’n ddiddorol iawn.

“Heb os, mae dealltwriaeth gref yn bodoli ynghylch y trefniant datganoledig cyffredinol yng Nghymru, ond mae maint ein sampl yn golygu bod modd inni edrych yn fanylach ar y canlyniadau, er mwyn mesur dealltwriaeth pobl yn ddyfnach yn ôl eu rhanbarth a’r pwnc gwleidyddol dan sylw.

”Rwy’n sicr y bydd y canlyniadau’n rhoi ffynhonnell wybodaeth dreiddgar a hynod o werthfawr i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.”

DIWEDD

Nodyn i olygyddion

1.Comisiynwyd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol i ymchwilio i farn y cyhoedd am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’u gwybodaeth amdano. Is-gontractiwyd GfKNOP gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru i gynnal yr arolwg ei hun.

2. Roedd yr ymchwil yn ceisio rhoi sylw i nifer o faterion penodol:

  • Canfod barn gyffredinol y cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a datganoli, ac am roi rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol

  • Canfod faint o ddiddordeb sydd gan y cyhoedd ynghylch y Cynulliad Cenedlaethol a’u gwybodaeth amdano; ac

  • Edrych ar ffynonellau gwybodaeth y cyhoedd am wleidyddiaeth yn gyffredinol, ac am y Cynulliad Cenedlaethol yn benodol

3. Ar y materion hyn i gyd, gofynnwyd i’r tîm ymchwil greu data y gellid ei rannu yn ôl rhanbarth neu ddulliau grwpio eraill. Cafodd y sampl ar gyfer yr arolwg ei ddewis drwy ddeialu rhifau ar hap, o blith pob llinell ffôn bosibl ar draws y tir yng Nghymru. Cafodd y sampl ei rannu rhwng sectorau cod post yn y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru, a sgriniwyd yr ymatebwyr posibl i sicrhau eu bod yn gymwys. Cynhaliwyd yr arolwg gan ddefnyddio techneg cyfweld cyfrifiadurol dros y ffôn (CATI).

4.Cynhaliwyd 2,538 o gyfweliadau drwy Gymru ym mis Mehefin a dechrau mis Gorffennaf 2008. Er mwyn sicrhau bod y sampl yn gynrychioladol o’r boblogaeth sy’n oedolion, rhoddwyd cwotâu ar oedran, nifer y bobl o bob rhyw ym mhob statws cyflogaeth, a rhanbarth etholiadol.

5. Cafodd data’r arolwg ei bwysoli er mwyn cywiro mân wahaniaethau rhwng y sampl a natur y boblogaeth. Cynigiwyd cyfweld pawb yn Gymraeg neu’n Saesneg.