Arwain y ffordd o ran ymgysylltu â phobl ifanc - y Cynulliad yn amlinellu ei lwyddiant i Seneddwyr y DU ac Iwerddon

Cyhoeddwyd 30/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/11/2016

​Mae grŵp o seneddwyr blaenllaw o bob un o ddeddfwrfeydd y DU ac Iwerddon wedi clywed sut y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain y ffordd o ran ymgysylltu â phobl ifanc.

Gwnaeth Ann Jones AC, Dirprwy Lywydd y Cynulliad, gyflwyniad i gyfarfod llawn Cymnulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon (BIPA) (29 Tachwedd 2016).

Roedd BIPA, sy'n dwyn ynghyd gwleidyddion o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, deddfwrfeydd Guernsey a Jersey, Senedd Iwerddon a Senedd San Steffan, yn cwrdd yng Nghaerdydd.

Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y cynrychiolwyr: "Ers sefydlu'r Cynulliad ym 1999, cafwyd darnau nodedig o ddeddfwriaeth a phenderfyniadau sydd wedi sicrhau bod Cymru yn arwain y blaen o ran hyrwyddo lle plant a phobl ifanc yn ein cenedl.

"Rydym yn falch o fod wedi creu Siarter Ymgysylltu â Phobl Ifanc, ymgysylltu a thros 10,000 o bobl ifanc ynghylch eu barn ar ostwng yr oedran pleidleisio, a chynnwys dros 10,000 o bobl ifanc yn uniongyrchol ym musnes y Pwyllgor.

"Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Llywydd fwriad Comisiwn y Cynulliad i greu Senedd Ieuenctid y credwn y bydd yn ein helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach er mwyn sicrhau y gall pobl ifanc leisio'u barn ar fater sy'n bwysig iddynt."

Ymhlith rhai o'r cyflawniadau allweddol a amlinellwyd gan y Dirprwy Lywydd mae'r canlynol:

  • Cyfrannodd dros 3,000 o bobl ifanc at yr ymgynghoriad 'Dy Lais Di, Dy Ffordd Di' yn 2014. Dywedodd pobl ifanc wrth y Cynulliad eu bod am wella eu dealltwriaeth o waith y Cynulliad a sut y mae'n berthnasol i'w bywydau. Roeddent hefyd yn awyddus i'w barn ar y materion sy'n bwysig iddynt gael ei ystyried gan Aelodau'r Cynulliad, a bod y farn honno'n cael ei gwerthfawrogi.
  • O ganlyniad i'r ymgynghoriad hwnnw, ar 16 Gorffennaf 2014, lansiodd Llywydd y Pedwerydd Cynulliad ac arweinwyr pedair plaid, Siarter Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad, a oedd yn nodi ymrwymiad y Cynulliad i ymgysylltu â chymaint o bobl ifanc yng Nghymru â phosibl.
  • Holwyd dros 10,000 o bobl ifanc yn 2015 ymghylch gostwng yr oedran pleidleisio ac roedd 53 y cant o blaid gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed, gyda 58 y cant yn dweud y byddent yn pleidleisio pe bai etholiad yfory.
  • Ers hynny, mae'r Cynulliad wedi sefydlu rhaglen waith ieuenctid sydd wedi cynnwys dros 200 o grwpiau ieuenctid ac ystod eang o safbwyntiau yng ngwaith y Cynulliad, gan gynnwys y rheini sy'n aml heb lais (plant sy'n derbyn gofal, plant anabl a gofalwyr ifanc).
  • At hynny, mae dros 20,000 o bobl ifanc yn ymweld â Siambr Hywel - adnodd penodol y Cynulliad ar gyfer pobl ifanc - neu'n cwrdd ag Aelodau'r Cynulliad a'n swyddogion yn flynyddol.