Assembly Committee endorses Auditor General’s 2012/13 budget

Cyhoeddwyd 17/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad yn cymeradwyo cyllideb yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfer 2012/13

17 Tachwedd 2011

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymeradwyo cyllideb Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Roedd y ffigurau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor gan Huw Vaughan Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol, yn dangos gostyngiad o 12 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, er bod y gyllideb honno hefyd yn cynnwys cais atodol am arian ychwanegol i ariannu cynllun diswyddo gwirfoddol yn rhannol.


Roedd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi’r ymdrech a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol i gadw costau mor isel â phosibl heb effeithio ar ansawdd y gwaith.

Nododd hefyd fod Mr Thomas yn bwriadu parhau i geisio lleihau ei ffioedd er mwyn cydnabod y pwysau ariannol y mae cyrff a archwilir yn ei wynebu ac yn ychwanegol at ostyngiadau a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gywir yn y modd y mae’n disgwyl y safonau rheolaeth ariannol uchaf gan gyrff cyhoeddus sydd o fewn ei awdurdodaeth.

“Yn yr un modd, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn disgwyl i Swyddfa Archwilio Cymru osod esiampl o ran arferion da, ac, yn benodol, y bydd ei phrosesau gwneud penderfyniadau yn agored a thryloyw.

“Rydym wedi mynegi pryderon ynghylch dau faes gwariant yn ffigurau’r Archwilydd Cyffredinol ond rydym yn fodlon ar yr ymdrechion a wnaed i naill ai leihau neu i ail-asesu’r costau hynny.

“Felly mae’r Pwyllgor yn cymeradwyo amcangyfrif yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfer 2012/13 heb addasiadau.”