Beth yw ystyr cyfnod o Alaru Cenedlaethol a pha mor hir y bydd yn para?
Yn dilyn y cyhoeddiad trist ynglŷn â marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines, mae'r DU bellach mewn cyfnod o Alaru Cenedlaethol, a bydd yn para tan Dydd Llun 19 Medi.
Yn ystod y cyfnod hwn bydd busnes yn cael ei ohirio yn y Senedd, ac eithrio ar gyfer adalw’r Senedd i Aelodau dalu teyrnged i'r Frenhines Dydd Sul 11 Medi.
Yn ystod y cyfnod o Alaru Cenedlaethol bydd Eu Mawrhydi’r Brenin a’r Frenhines Gydweddog yn ymweld â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys ymweliad â'r Senedd i glywed y Cynnig o Gydymdeimlad ddydd Gwener 16 Medi. Darllenwch ragor o wybodaeth am yr ymweliad hwn.
Mae baneri ar draws ein hystad wedi eu hanner gostwng a byddant yn parhau felly tan y bore ar ôl yr angladd gwladol. Yr unig eithriad i hyn fydd yn ystod darllen y Proclamasiwn rhwng 11.00 ac 13.00 ar Ddydd Sadwrn 10 Medi.
Bydd angladd gwladol yn cael ei gynnal yn Abaty San Steffan ar Dydd Llun 19 Medi. Bydd y Senedd yn arsylwi dwy funud o dawelwch yn ystod yr Angladd Gwladol.
Mae rhagor o wybodaeth am y cyfnod o Alaru Cenedlaethol ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar y cyfnod o Alaru Cenedlaethol.
Sut y bydd y cyfnod o Alaru Cenedlaethol yn effeithio ar fusnes y Senedd?
Mae holl fusnes y Senedd yn cael ei ohirio yn ystod y cyfnod o Alaru Cenedlaethol, heblaw am adalw i drafod Cynnig o Gydymdeimlad ddydd Sul 11 Medi, ac i'r Cynnig o Gydymdeimlad gael ei ddarllen i'r Brenin ddydd Gwener 16 Medi.
Yn ystod y ddadl ar y Cynnig o Gydymdeimlad, bydd gan Aelodau gyfle i dalu teyrnged i’r Frenhines a byddant yn cytuno ar y geiriad ar gyfer Cynnig o Gydymdeimlad.
Bydd y Cynnig o Gydymdeimlad yn cael ei ddarllen gan y Prif Weinidog yn y Senedd pan fydd y Brenin yn ymweld ddydd Gwener 16 Medi.
Bydd adeilad y Senedd ar gau i’r cyhoedd drwy gydol y Cyfnod o Alaru Cenedlaethol. Bydd pob digwyddiad a drefnwyd, gan gynnwys ymweliadau addysgol a theithiau o amgylch y Senedd, yn cael eu gohirio.
Bydd yn ailagor yn y bore yn dilyn yr Angladd Gwladol, ddydd Mawrth 20 Medi.
A oes gan y Senedd lyfr cydymdeimlo?
Mae llyfr cydymdeimlo ar gael ar-lein.
A allaf ymweld â’r Senedd yn ystod y cyfnod o Alaru Cenedlaethol?
Bydd y Senedd ar gau i’r cyhoedd yn ystod y cyfnod o Alaru Cenedlaethol.
Mae'r holl ymweliadau, digwyddiadau, teithiau a sesiynau addysg a drefnwyd ymlaen llaw wedi'u gohirio a byddant yn cael eu haildrefnu.
Cysylltwch â Lleoliadau@Senedd.Cymru i aildrefnu eich digwyddiad, neu â Cyswllt@Senedd.Cymru i aildrefnu eich taith, ymweliad neu sesiwn addysg.
Bydd yn ailagor y bore yn dilyn yr Angladd Gwladol, ar Dydd Mawrth 20 Medi.
A allaf adael tusw o flodau yn y Senedd?
Gofynnwn yn barchus i aelodau’r cyhoedd beidio â gosod blodau nac eitemau coffa eraill, fel canhwyllau, negeseuon neu gofroddion, yn y Senedd, adeilad y Pierhead nac yn ein swyddfa ym Mae Colwyn.
Yng Nghaerdydd, mae trefniadau wedi'u gwneud i'r cyhoedd adael blodau ym mhrif fynedfa Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
Beth fydd yn digwydd yng Nghymru yn ystod y cyfnod o Alaru Cenedlaethol?
Ddydd Gwener 16 Medi bydd Eu Mawrhydi’r Brenin a’r Frenhines Gydweddog yn ymweld â Chymru, gan gynnwys y Senedd.
Darperir manylion llawn y digwyddiadau a gynhelir ledled Cymru dros y dyddiau nesaf gan Lywodraeth Cymru.
Beth fydd yn digwydd pan fydd Ei Fawrhydi y Brenin yn ymweld â'r Senedd?
Ddydd Gwener 16 Medi, bydd y Brenin yn ymweld â'r Senedd i glywed darlleniad o'r Cynnig o Gydymdeimlad.
Bydd y Prif Weinidog yn darllen Cynnig o Gydymdeimlad yn Siambr y Senedd, a bydd y Brenin yn ymateb iddo.
A gaf i ddod i wylio’r Brenin yn ymweld â'r Senedd?
Bydd y cyhoedd yn gallu gwylio’r Brenin yn cyrraedd a gadael y Senedd ddydd Gwener 16 Medi. Bydd adeilad y Senedd yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd.
Bydd rhwystrau diogelwch yn cael eu gosod o amgylch y Senedd ar gyfer y digwyddiad. Bydd sgrin fawr o flaen y Senedd lle gall y cyhoedd wylio'r Brenin yn cyrraedd a'r hyn sy'n digwydd y tu mewn i'r Senedd.
Mae'n bwysig nodi y bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Caerdydd y diwrnod hwn. Disgwylir torfeydd, ciwiau a thraffig.
Mae rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar y diwrnod ar wefan Llywodraeth Cymru.
A fydd ymweliad y Brenin â'r Senedd yn cael ei ddarlledu'n fyw?
Bydd modd gwylio ymweliad y Brenin â'r Senedd yn fyw ar Senedd.tv a thrwy ein partneriaid yn y BBC.
A fydd ffyrdd ar gau o amgylch Bae Caerdydd pan fydd y Brenin yn ymweld?
Mae gwybodaeth am y ffyrdd a fydd ar gau yng Nghaerdydd ddydd Gwener 16 Medi ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd.
Ble y gallaf barcio os ydw i eisiau gwylio’r Brenin yn ymweld â'r Senedd?
Mae'n bwysig nodi y disgwylir torfeydd ledled Caerdydd ddydd Gwener 16 Medi. Os ydych yn bwriadu teithio i Fae Caerdydd, dylech ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio.
Dod o hyd i wybodaeth ynghylch cyrraedd y Senedd a pharcio yn y Senedd.
Ble y gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ledled y DU yn ystod y cyfnod o alaru?
Mae gwybodaeth am weithgareddau sy'n digwydd ar draws y DU ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.
Ymholiadau’r Cyfryngau
Gallwch gysylltu â'r tîm newyddion ar 0300 200 7487, neu drwy anfon neges e-bost at newyddion@senedd.cymru.
Yr oriau swyddfa arferol yw 09.00 i 17.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os bydd gennych ymholiadau y tu allan i’r oriau swyddfa, ffoniwch 0300 200 7487.