Bydd y gyn-Delynores Frenhinol Claire Jones yn chwarae darn wedi’i gyfansoddi’n arbennig i nodi ymweliad cyntaf y Brenin â Chymru ddydd Gwener. Bydd Ms Jones yn chwarae’r darn wrth i’w Mawrhydi y Brenin a’r Frenhines Gydweddog fynd ar eu taith drwy’r Senedd i glywed cynnig o gydymdeimlad.
Cafodd y darn, sy’n dwyn y teitl “Gorymdaith i’r Brenin Siarl”, ei gyfansoddi gan ŵr Claire, Chris Marshall.
Gan gyrraedd amser cinio ddydd Gwener, bydd y Brenin a’r Frenhines Gydweddog yn cael eu cyfarch gan Lywydd y Senedd a’r Prif Weinidog. Bydd dwy delyn yn canu i nodi’r achlysur, gyda Cerys Rees a Nia Evans yn ymuno â Ms Jones.
Dywedodd y delynores arobryn, Claire Jones: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at berfformio i’r Brenin Charles a’i deulu eto wrth iddynt ymweld â Chymru. Roedd yn fraint arbennig cael bod yn Delynores Swyddogol iddo am bedair blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe wnes i berfformio dros 180 o weithiau i’r Teulu Brenhinol, gan gynnwys perfformiad personol i’w Mawrhydi y Frenhines a sawl achlysur gwladwriaethol i’w Mawrhydi dros y blynyddoedd. Bydd y perfformiad yn y Senedd yn achlysur arbennig iawn wrth i mi berfformio cerddoriaeth fy ngŵr i’w Fawrhydi y Brenin Charles.”
Dywedodd y cyfansoddwr, Chris Marshall: “Mae’n fraint wirioneddol i mi gael cyfansoddi’r gwaith arbennig hwn ar gyfer achlysur mor bwysig, sef ymweliad y Brenin Charles III â Chymru. Mae’r gerddoriaeth yn orymdaith urddasol a chysegredig, sy’n cynrychioli esgyniad y Brenin i’r Orsedd.”
Claire Jones yw un o delynorion clasurol gorau Prydain ac yn gyn-Delynores Swyddogol i’w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru 2007-11. Daeth yn enw cyfarwydd am ei pherfformiad arbennig yn y Briodas Frenhinol yn 2011 i’w Huchelderau Brenhinol Tywysog a Thywysoges Cymru. Mae Claire yn perfformio yn rheolaidd fel unawdydd gyda rhai o gerddorfeydd mwyaf blaenllaw y byd ac mae wedi cyrraedd brig y siartiau clasurol gyda llawer o’i halbymau ar y cyd â’i gŵr, y cyfansoddwr Chris Marshall.
Mae’r cyfansoddiad gan y cyfansoddwr adnabyddus o Gymru, Chris Marshall, y mae ei waith wedi cael ei berfformio’n rhyngwladol ar y teledu a’r radio, a chan lawer o gerddorfeydd mwyaf blaenllaw y byd, fel y Royal Philharmonic Orchestra a’r English Chamber Orchestra ac mewn gwyliau rhyngwladol fel Proms Cymru ac Eisteddfod Llangollen, ac yn Ewrop ac Unol Daleithiau America.