Peter Fox AS

Peter Fox AS

Cynnig i greu system fwyd mwy cynaliadwy wedi’i ddewis yn y balot ar gyfer Bil Aelod

Cyhoeddwyd 22/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ymgais i greu deddf newydd er mwyn sefydlu system fwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru sydd wedi'i ddewis ar gyfer Bil Aelod cynta’r Chweched Senedd.

Cafodd cynnig Peter Fox AS ar gyfer Bil Bwyd (Cymru) ei ddewis mewn balot o blith rhestr o gynigion gan Aelodau o’r Senedd. Cyhoeddwyd y Bil buddugol gan y Llywydd ar ddechrau Cyfarfod Llawn heddiw, ddydd Mercher 22 Medi.

 

Dywedodd Peter Fox AS, Aelod o’r Senedd dros etholaeth Mynwy, am nod y Bil Bwyd (Cymru):

“Rwy’n hynod falch bod fy Nghynnig Deddfwriaethol wedi’i ddewis heddiw.

“Cyflwynais y cynnig hwn ar gyfer Bil a fyddai’n sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yma yng Nghymru i gryfhau diogelwch bwyd, gwella ein lles economaidd-gymdeithasol a gwella dewis y defnyddiwr.

“Fe all y Bil hwn fod o fudd dramatig i ddinasyddion a chynhyrchwyr y wlad hon.”

 

Mae gan yr Aelod nawr 25 diwrnod gwaith i gyflwyno cynnig er mwyn gofyn am gytundeb y Senedd ei fod yn gallu cyflwyno’r Bil yn swyddogol ar sail yr hyn sydd wedi ei gynnig yn barod.

Bydd y cynnig yn cael ei drafod gan holl Aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Llawn o fewn 35 diwrnod gwaith ar ôl y balot, ag eithrio cyfnod pan mae’r Senedd ar doriad ar 25 Hydref.

Os cytunir ar y cynnig hwnnw, mae gan yr Aelod 13 mis i gyflwyno’r Bil yn ffurfiol.

 

Beth yw‘r balot Bil Aelod?

  • Mae’r balot Bil Aelod yn rhoi cyfle i Aelodau o'r Senedd gyflwyno cynnig ar gyfer deddfwriaeth newydd maen nhw’n dymuno ei weld.
  • Gall Aelod gynnig unrhyw beth y mae gan y Senedd y pŵer cyfreithiol i'w newid, ac eithrio trethiant.
  • Gwahoddir Aelodau i gyflwyno eu cynigion ac yna dewisir un ar hap.
  • Cynhelir y balot sawl gwaith yn ystod tymor y Senedd, gyda’r amseriad yn cael ei osod gan y Llywydd. Dyma bleidlais gyntaf y Senedd hon.
  • Os caiff ei ddewis, mae gan yr Aelod gyfle i ddatblygu’r cynnig i mewn i Fil a fydd wedyn yn destun yr un broses graffu gan y Senedd ag unrhyw Fil arall ac os bydd yn llwyddiannus, yn dod yn Gyfraith newydd yng Nghymru.