Bydd baneri yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn chwifio ar hanner mast ddydd Sul 11 Ionawr o 5pm, fel arwydd o barch i ddioddefwyr yr ymosodiad yn swyddfa y cylchgrawn dychanol o Ffrainc, Charlie Hebdo, pan gafodd 12 o bobl eu lladd.
Mae Conswl Anrhydeddus Ffrainc yng Nghaerdydd yn trefnu ymgynulliad am 6pm o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd lle bydd munud o dawelwch.
Mae dros 300 o bobl wedi cadarnhau y byddant yn bresennol a gofynnir iddynt gynnau canhwyllau i ddangos eu hundod â dioddefwyr yr ymosodiad ac i ddangos eu hymrwymiad i ryddid barn.
Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
"Rwy'n siŵr bod pawb yng Nghymru wedi eu harswydo o glywed y newyddion am y marwolaethau yn swyddfeydd Charlie Hebdo ym Mharis ddydd Mercher."
"Fel arwydd o barch i'r rhai sydd wedi colli eu bywydau ac i ddangos ein cydsafiad â phobl Ffrainc, bydd y baneri yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn chwifio ar hanner mast ddydd Sul."