Beichiogrwydd, mamolaeth a chyflogaeth yw testun ymchwiliad newydd y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/05/2018

Bydd ymchwiliad newydd yn archwilio sut y mae beichiogrwydd a mamolaeth yn effeithio ar gydraddoldeb yn y gwaith.

Bydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Cynulliad Cenedlaethol yn ymchwilio i faterion o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, megis cyflogadwyedd, datblygu economaidd, dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru, gweithluoedd y sector cyhoeddus, a gofal plant.

Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC)  yn 2016, dywedodd 71 y cant o famau yng Nghymru eu bod wedi cael profiadau negyddol neu wahaniaethol. Roedd bron eu hanner o’r farn bod beichiogrwydd wedi effeithio ar gyfleoedd gwaith, statws a sicrwydd swydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr o ofal plant yr wythnos am ddim ar gyfer rhieni mewn gwaith sydd â phlant 3 a 4 oed, a hynny ar gyfer 48 wythnos y flwyddyn. Ond canfu adroddiad yn 2015 mai ychydig o wahaniaeth y byddai cynyddu gofal plant i 30 awr yn ei gwneud o ran lleihau tlodi a helpu mwy o fenywod yn ôl i’r gwaith.

“Yn yr oes sydd ohoni mae’n annerbyniol rhoi menyw o dan anfantais a gwahaniaethu yn ei herbyn am fod ganddi blentyn”, meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. 

“Byddwn yn archwilio’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater hwn trwy ei chynllun gweithredu economaidd a thrwy ei rhaglenni cyflogadwyedd.

“Byddwn hefyd yn ystyried effaith bosibl ei pholisi i gynyddu gofal plant am ddim i 30 awr yr wythnos.

“Mae hwn yn fater personol iawn i lawer o fenywod yng Nghymru ac rydym yn awyddus i gael eu hanes.”

Dylai unrhyw un sydd am gymryd rhan yn yr ymchwiliad fynd i wefan y Pwyllgor - www.cynulliad.cymru/SeneddCymunedau.

Mae adroddiad 2016 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gael yma. (Saesneg yn unig)

Mae adroddiad 2015 ar ofal plant gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ar gael yma. (Saesneg yn unig)

 

 


 

Ymchwiliad mewn i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru


Rhagor o wybodaeth ›