Bydd ymchwiliad newydd yn ystyried sut y bydd ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru yn cael eu disodli neu eu hailgyflunio ar ôl i'r DU adael yr UE.
Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu edrych ar y paratoadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol a'r modelau cyllido a allai ddod â'r manteision gorau posibl i Gymru.
Rhwng 2014 a 2020, bydd dros £2 biliwn yn cael ei ddarparu i Gymru drwy gronfeydd strwythurol yr UE. Mae'r arian wedi'i dargedu at y meysydd a ganlyn:
Ymchwil ac Arloesi (cyllid o £239 miliwn ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a £71 miliwn ar gyfer Dwyrain Cymru);
Cystadleurwydd BBaCh (cyllid o £166 miliwn ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a £32 miliwn ar gyfer Dwyrain Cymru);
Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni (cyllid o £137 miliwn ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a £18 miliwn ar gyfer Dwyrain Cymru); a
Cysylltedd a Datblygu Trefol (cyllid o £401 miliwn ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a £38 miliwn ar gyfer Dwyrain Cymru)
Mae rhagor o gyllid yn dod drwy'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, y Rhaglen Datblygu Gwledig, y Rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd rhwng Cymru ac Iwerddon, Cronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop, a rhaglen Horizon 2020.
Fesul person, mae Cymru yn cael mwy na dwbl y swm y mae unrhyw ranbarth arall o'r DU yn ei gael:
Ffynhonnell: Sefydliad Ymchwil Economi Wleidyddol Sheffield, Rhanbarthau'r DU a chronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd
"Mae Cymru'n fuddiolwr net o ran arian Ewropeaidd, ond pan fydd y DU yn gadael yr UE yn 2019, bydd hynny i gyd yn dod i ben," meddai Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
"Rydym yn derbyn bod trafodaethau Brexit yn parhau, ond ni all Cymru eistedd yn ôl ac aros i weld beth sy'n digwydd. Mae pobl a busnesau angen gwybod beth allai ddisodli'r arian yr ydym yn elwa ohono ar hyn o bryd.
"Byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru pa gynlluniau sydd ganddynt ar waith, faint o amser y bydd y broses hon yn ei chymryd ac a oes dewisiadau eraill a fyddai'n fwy addas i Gymru yn y tymor hir."
Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:
Asesu'r gwaith cynllunio ariannol ar gyfer disodli ffrydiau ariannu yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, a'r hyn sy'n cael ei wneud i baratoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd posibl o ran lefelau cyllid a chyfrifoldeb gweinyddol; ac,
Archwilio pa ddulliau o weinyddu'r hyn a fydd yn disodli ffrydiau ariannu yr Undeb Ewropeaidd a allai ddarparu'r gorau i Gymru, ac i ba raddau y gallai'r rhain ail-greu neu fod yn wahanol i'r trefniadau presennol.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 11 Mai 2018. Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu fynd i dudalennau'r Pwyllgor Cyllid ar y we am fwy o wybodaeth.
Hoffem ni clywed gennych chi.
Cyfrannwch at hymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid mewn i’r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru pan fydd y DU yn gadael yr UE.